The essential journalist news source
Back
7.
May
2025.
Cyfleoedd i grwpiau chwaraeon a chymunedol ym Mharc Hailey a Maes Hamdden Llys-faen

7.5.25

Bydd grwpiau chwaraeon a chymunedol yn cael cynnig cyfle i brydlesu safle hen bafiliwn lawnt fowlio Parc Hailey a'r ystafelloedd newid ym Maes Hamdden Llys-faen, y ddau ohonynt yn eiddo i Gyngor Caerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae trefniadau prydles o'r math yma eisoes ar waith yn llawer o barciau Caerdydd, gan fuddsoddi mewn cyfleusterau presennol, helpu i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a galluogi sefydliadau lleol a chlybiau chwaraeon i ryddhau cyfleoedd ariannu newydd."

Mae holl ddefnyddwyr y cyfleuster a'r cae presennol wedi cael gwybod am y cynigion. O ganlyniad i'r cynigion, cyhoeddwyd hysbysiadau cyfreithiol yn hysbysebu ynghylch 'gweinyddu' 0.07 erw o dir ar Faes Hamdden Llys-faen a 0.03152 hectar o dir ym Mharc Hailey.

Mae 'gweinyddu' yn derm cyfreithiol sydd, yn yr achos hwn, yn cyfeirio at roi prydles. Bydd yr holl dir yn parhau ym mherchnogaeth Cyngor Caerdydd.

Bydd marchnata'r cyfleoedd yn dechrau unwaith bydd yr holl brosesau cyfreithiol angenrheidiol wedi'u cwblhau. Bydd manylion llawn ar gael ar wefan Eiddo Cyngor Caerdydd: https://cardiffcouncilproperty.com/cy/