The essential journalist news source
Back
7.
May
2025.
36,000 yn rhagor o goed yn tyfu yng nghoedwig drefol Caerdydd

7.5.25

Mae prosiect coedwig drefol a ddatblygwyd gan Gyngor Caerdydd fel rhan o'i ymateb ‘Caerdydd Un Blaned' i newid hinsawdd wedi plannu 36,526 o goed newydd yn ystod y 7 mis diwethaf.

Mae plannu'r tymor hwn, a oedd yn cynnwys 280 o goed lled-aeddfed newydd ar strydoedd Caerdydd a 1,144 o goed lled-aeddfed eraill mewn mannau gwyrdd o amgylch y ddinas, yn golygu bod mwy na 118,500 o goed wedi cael eu plannu ers i brosiect Coed Caerdydd ddechrau ddiwedd 2021.

A group of people standing in a field of flowersAI-generated content may be incorrect.

Gwirfoddolwyr Coed Caerdydd ym Mharc Westfield yn Nhrelái.

Roedd Derw, Cerddin, Drain Gwynion, Gwern, Ffawydd a rhywogaethau brodorol eraill ymhlith y coed a blannwyd fwyaf eleni, ond gwnaeth y prosiect hefyd ailgyflwyno coed afal prin ‘Gabalva' i'r ddinas am y tro cyntaf ers tua 100 mlynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Dros amser, bydd y coed newydd hyn yn gwneud cyfraniad go iawn i'n huchelgeisiau carbon sero-net, yn ogystal â gwella ansawdd yr aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu, darparu cynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt, amsugno dŵr yn ystod tywydd gwlyb, a chynnig cysgod croesawgar yn ystod tywydd poeth.

"Mae ymateb y gymuned i'r prosiect wedi bod yn wych. Diolch i gymorth trigolion, grwpiau cymunedol lleol, ysgolion a busnesau, mae coed a blannwyd fel rhan o'r prosiect bellach yn gorchuddio ardal maint bron i 30 o gaeau Stadiwm Principality. Ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb y 16,000 awr o amser y maen nhw wedi'i roi i wneud Caerdydd yn ddinas wyrddach."

A child holding a shovel in a fieldAI-generated content may be incorrect.

Gwirfoddolwr ifanc yn cymryd rhan mewn sesiwn plannu cymunedol.

Meddai Chloe Thorn, Rheolwr Prosiect Coed Caerdydd: "Eleni roedd gennym fwy na 2,100 o wirfoddolwyr yn gweithio gyda ni mewn 114 o sesiynau plannu cymunedol ledled y ddinas ac 800 o wirfoddolwyr eraill yn helpu yn y blanhigfa goed lle rydyn ni'n gofalu am ein coed i gyd nes iddyn nhw gael eu plannu. Mae wedi bod yn anhygoel, ond hyd yn oed nawr a'r tymor plannu ar ben mae yna lawer o gyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan.

"Mae gofalu am y coed sydd newydd gael eu plannu yn bwysig iawn - a dyna lle mae'r 300 o warcheidwaid coed gwirfoddol, sy'n ein helpu i fonitro iechyd y coed newydd ac yn darparu dŵr ychwanegol lle bo hynny'n bosibl, mor wych. Rydyn ni bob amser yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr - po fwyaf o gymorth a gawn, y cyflymaf y bydd coedwig Caerdydd yn tyfu."

A group of people in a gardenAI-generated content may be incorrect.

Gwirfoddolwyr wrthi'n gweithio yn y blanhigfa goed.

I gael gwybod am gyfleoedd i wirfoddoli gyda'r prosiect, ewch i: https://www.caerdyddawyragored.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/cyfleoedd-gwirfoddoli/

I gofrestru i fod yn Warcheidwad Coed a/neu ymuno â rhestr bostio'r prosiect, anfonwch e-bost at: prosiectcoedcaerdydd@caerdydd.gov.uk

Mae pob coeden stryd sy'n cael ei phlannu mewn arwyneb caled yn cael ei phlannu mewn twll coed sy'n cynnwys atalfeydd gwreiddiau sydd wedi'u cynllunio'n arbennig i orfodi gwreiddiau i dyfu tuag i lawr, gan leihau'r risg o ddifrod i balmentydd ac eiddo cyfagos.

 

Coed Caerdydd mewn rhifau:

  • 36,526 o goed wedi'u plannu (gan gynnwys 1,424 o goed lled-aeddfed, a 280 ohonynt yn goed stryd) mewn dros 200 o safleoedd cyhoeddus y tymor plannu hwn.
  • Mwy na 118,500 o goed wedi'u plannu ers dechrau'r prosiect.
  • Tua 3km o wrychoedd newydd wedi'u plannu y tymor hwn.
  • 2,243 o goed wedi'u darparu i 190 o aelwydydd mewn digwyddiadau rhoi coed.
  • 5,980 o oriau gwirfoddoli eleni - a dros 16,000 ers dechrau'r prosiect yn 2021.
  • 114 o ddigwyddiadau plannu cymunedol wedi'u cynnal y tymor plannu hwn, gyda chefnogaeth 2,166 o wirfoddolwyr newydd a gwirfoddolwyr yn dychwelyd.
  • 50 o sesiynau gwirfoddoli yn y blanhigfa goed eleni, gyda 800 o wirfoddolwyr yn mynychu.
  • 12 digwyddiad hyfforddi cymunedol wedi'u cynnal eleni, gyda thua 200 o bobl yn mynychu.