27.11.24
Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd wedi'i henwi fel Canolfan Gymeradwy Cymdeithas Ceffylau Prydain 2024 sydd wedi "gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'w chymuned."
Canmolodd y Gymdeithas "ymdrechion parhaus yr ysgol i ysbrydoli a chodi unigolion o bob cefndir, ac ymrwymiad diwyro i gynhwysiant, ymgysylltu â'r gymuned a datblygiad personol," gan ei galw'n "allweddol yn newid llawer o fywydau."
Yn eiddo i Gyngor Caerdydd, Ysgol Farchogaeth Caerdydd yw un o'r ysgolion marchogaeth olaf sy'n eiddo i'r awdurdod lleol ac yn cael ei gweithredu ganddo yn y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae'r wobr haeddiannol hon yn glod i bawb sy'n ymwneud ag Ysgol Farchogaeth Caerdydd. Mae'r tîm yn rhoi eu gorau i gefnogi cleientiaid yr ysgol a dylent fod yn falch iawn o'r gydnabyddiaeth hon."
Llywydd Cymdeithas Ceffylau Prydain, Martin Clunes gyda Rheolwr Cynorthwyol Ysgol Farchogaeth Caerdydd, Ann Peate.
Cyflwynwyd y wobr i Ann Peate, Rheolwr Cynorthwyol yr Ysgol Farchogaeth, gan yr actor Martin Clunes sy'n Llywydd Cymdeithas Ceffylau Prydain, ar Gae Ras Newbury. Wrth siarad am y wobr, dywedodd: "Gyda chystadleuaeth mor galed, roedd yn anrhydedd ennill. Heb y tîm anhygoel o staff, y ceffylau gwych sydd gennym a'r gefnogaeth gan Gyfeillion Ysgol Farchogaeth Caerdydd, sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyliadau yn ddiflino i'n cleientiaid, ein staff a'n ceffylau, ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni ennill y wobr hon. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb sy'n ein cefnogi."