The essential journalist news source
Back
13.
November
2024.
Cefnogaeth gyhoeddus i gynlluniau i warchod 11 parc yng Nghaerdydd yn barhaol

13.11.24

Gallai 11 o barciau yng Nghaerdydd gael eu gwarchod yn barhaol ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus ganfod cefnogaeth gyhoeddus aruthrol i'r cynlluniau a gyflwynwyd gan Gyngor Caerdydd.

Canfu'r ymgynghoriad 8-wythnos fod 95% o'r ymatebwyr o blaid cynlluniau i ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno' gyda Meysydd Chwarae Cymru, elusen annibynnol sy'n gweithredu ledled y DU sy'n ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd.

A grass field with trees and a pathDescription automatically generated

Parc Trelái, un o 11 parc a allai elwa o'r amddiffyniad. Cydnabyddiaeth:  Cyngor Caerdydd 

 

Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn argymell y dylai'r Cyngor nawr ddechrau'r gwaith angenrheidiol i orffen cyflwyno'r parciau canlynol fel Meysydd Chwarae Cymru:

  • Parc y Fynwent (Adamsdown)
  • Rhodfa Craiglee (Butetown)
  • Parc Trelái (Caerau)
  • Parc y Sanatoriwm (Treganna)
  • Parc Rhydypennau (Cyncoed)
  • Parc y Tyllgoed (Y Tyllgoed)
  • Parc Hailey (Ystum Taf)
  • Parc Waun Fach (Pentwyn)
  • Parc Westfield (Pentyrch a Sain Ffagan)
  • Heol Llanisien Fach (Rhiwbeina)
  • Parc Caerllion (Trowbridge)

Byddai Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn berchen ar y safleoedd ac yn gyfrifol am eu rheoli a'u cynnal.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Os cânt eu cymeradwyo gan y Cabinet, bydd y cytundebau hyn gyda Meysydd Chwarae Cymru yn mwy na dyblu nifer y parciau yng Nghaerdydd sydd wedi'u gwarchod rhag datblygiad ac yn golygu bod 254,000 o drigolion - 69% o'r boblogaeth - yn byw o fewn 10 munud ar droed i fan gwyrdd gwarchodedig."

Mae deg safle sy'n eiddo i'r cyngor eisoes wedi'u gwarchod yn barhaol gan Meysydd Chwarae Cymru. Y rhain yw:   Gerddi Alexandra, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Man Agored Hywel Dda, Parc Llanisien, Parc y Morfa, Caeau Pontcanna, Caeau Pontprennau, Cae Rec y Rhath a Chae Rec Tredelerch.

Mae Cae Rec Creigiau a Chae Chwarae Pentref Llaneirwg hefyd wedi'u gwarchod yn y modd hwn. Mae'r safleoedd hyn yn cael eu rheoli gan gynghorau cymuned lleol.

Mae atebion i lawer o gwestiynau cyffredin am Meysydd Chwarae Cymru, a'r amddiffyniad y mae ymrwymo i weithred gyflwyno'n ei roi, ar gael yma: https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/33495.html

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod Ddydd Iau, 21 Tachwedd i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y dydd yma.

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod Ddydd Mawrth 19 Tachwedd. Bydd y cyfarfod ar gael i'w wyliar-lein.