The essential journalist news source
Back
12.
November
2024.
Adeiladu parc sglefrio Llanrhymni yn dechrau cyn bo hir

12.11.24

Cyn bo hir, bydd gan sglefrwyr yng Nghaerdydd barc sglefrio newydd atyniadol i'w fwynhau.

Mae disgwyl i'r gwaith ar y parc sglefrio 1,000m2drws nesaf i Ganolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni ddechrau cyn y Nadolig.

Aerial view of a skate parkDescription automatically generated

Delwedd CGI o sut y gallai parc sglefrio newydd Llanrhymni edrych.  Llun gan:Newline Skateparks

 

Wedi'i ddylunio gan ymgynghorwyr arobryn VDZ+A a Newline Skateparks mewn ymgynghoriad â'r gymuned sglefrfyrddio leol, mae'r parc sglefrio newydd yn cynnwys cyfres o rampiau,  cyrbau, grisiau a rheiliau yn ogystal â chwarter pibell a bydd yn addas ar gyfer pob oedran a gallu.

Wedi'i adeiladu o goncrit, bydd y parc sglefrio newydd yn well, mwy cynhwysol, haws ei gynnal a llai swnllyd na'r hen barc pren.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor:   "Bydd hwn yn gyfleuster gwych ar gyfer cymuned sglefrio fywiog Caerdydd a'r ail barc sglefrio a adeiladwyd fel rhan o'n strategaeth sglefrfyrddio, sy'n ceisio helpu'r gamp Olympaidd hon i barhau i ffynnu yma."

"Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a'r peth gwych am sglefrfyrddio yw, yn ogystal â bod yn chwaraeon â chost cymharol isel i gymryd rhan, ei fod hefyd yn apelio at bobl o bob oed - o blant a phobl ifanc, i sglefrwyr hŷn, rhai ohonynt bellach yn cyflwyno eu plant eu hunain i'r gamp." 

Mae gwelliannau ehangach i'r ardal hefyd yn cael eu cynllunio ochr yn ochr â'r parc sglefrio, gan gynnwys: plannu blodau gwyllt newydd, coed a llwyni, tra bydd 'gerddi glaw' yn ychwanegu draenio cynaliadwy ar y safle. Bydd goleuadau newydd hefyd yn cael eu gosod.