The essential journalist news source
Back
16.
October
2024.
Caerdydd Yn Ennill Gwobr O Fri - 'gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy'

16.10.24

Mae dinas Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy, gan gydnabod llwyddiant ei dull cydgysylltiedig o ddatblygu system fwyd gynaliadwy ac iach.

Mae Caerdydd yn un o ddim ond pedwar lle yn y DU i ennill statws Aur, gan ddilyn ôl troed Brighton & Hove, Bryste a Chaergrawnt.

Cafodd y cais am y wobr ei arwain gan Bwyd Caerdydd, sef 'partneriaeth fwyd' sy'n cwmpasu'r ddinas gyfan ac yn cynnwys unigolion a sefydliadau sy'n cysylltu'r bobl a'r prosiectau sy'n gweithio i hyrwyddo bwyd iach, amgylcheddol gynaliadwy a moesegol ledled y ddinas.

A group of people posing for a photoDescription automatically generated

Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb, y Cynghorydd Julie Sangani ac aelodau o bartneriaeth Bwyd Caerdydd. 
 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y ddogfen uchafbwyntiau'r Wobr Aur, ar gaelyma.

Enillodd Caerdydd Wobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2021 a dechreuodd Bwyd Caerdydd raglen ymgysylltu ac ymgynghori ledled y ddinas i greu Strategaeth Bwyd Da Caerdydd, gyda'r nod o ennill y Wobr Aur eleni. Mae'r strategaeth yn cynnwys pum nod ar gyfer bwyd - Caerdydd iach; Caerdydd amgylcheddol gynaliadwy; economi leol ffyniannus; system fwyd deg a chysylltiedig; a mudiad bwyd grymusol.

Bellach yn ei degfed flwyddyn, mae partneriaeth fwyd Caerdydd wedi esblygu i fod yn rhwydwaith deinamig, cryf a chynhwysol o ymgyrchwyr dros fwyd da. Cafodd Bwyd Caerdydd ei sefydlu ar y cyd gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro a Chyngor Caerdydd yn 2014. Mae'n rhan o Synnwyr Bwyd Cymru, sy'n anelu at ddylanwadu ar sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i fwyta yng Nghymru, gan sicrhau bod bwyd, ffermio a physgodfeydd cynaliadwy wrth wraidd system fwyd deg, cysylltiedig a ffyniannus.

Mae gan Bwyd Caerdydd fwrdd strategaeth hefyd sy'n cynnwys amrywiaeth o aelodau, ac yn eu plith mae Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Prifysgol Caerdydd, Marchnadoedd Ffermwyr Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái â llu o aelodau eraill.

Dywedodd Pearl Costello, cydlynydd Bwyd Caerdydd: "Mae hwn yn gyflawniad aruthrol i'r holl unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau sy'n rhan o rwydwaith Bwyd Caerdydd, a phawb yn y ddinas sydd wedi cyfrannu at ein mudiad Bwyd Da.

"Wrth i ni ddathlu dengmlwyddiant Bwyd Caerdydd, mae'n wych cael y gydnabyddiaeth allanol hon o'n llwyddiant ar lefel y DU. Ac i ddangos y pŵer yn sgil dod â'r holl bobl o fewn y system fwyd ynghyd i gydweithio i gyflawni newid - i gynyddu mynediad at fwyd iach, fforddiadwy, i ddod â chymunedau ynghyd a mynd i'r afael ag ynysigrwydd, i gefnogi system fwyd fwy cynaliadwy ac i sicrhau bod ein heconomi fwyd leol yn gallu ffynnu.

"Rydym yn edrych ymlaen nawr at ddechrau'r broses o weithio gyda'r holl bartneriaid hynny ar ein cynlluniau i adeiladu ar y wobr Aur hon a datblygu strategaeth nesaf Bwyd Da Caerdydd."

Meddai'r Cynghorydd Julie Sangani, "Fel yr Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Strategaeth Fwyd fel rhan o'm portffolio ac yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Grŵp Llywio Bwyd y Cyngor, rwy'n hynod falch bod Caerdydd wedi ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Ni yw'r Lle Bwyd Cynaliadwy cyntaf yng Nghymru i ennill gwobrau Aur, Efydd ac Arian - teitl a gafwyd drwy ymdrechion ar y cyd gan ein partneriaid, ein cymuned ymgysylltiedig, a'n cydweithwyr ymroddedig.

"Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn rym arloesol yn y Mudiad Bwyd Da yn y ddinas ers i Bwyd Caerdydd gael ei sefydlu yn 2014. Mae ein hymrwymiad cadarn i greu system fwyd gynaliadwy wedi bod yn agwedd allweddol ar ein gwaith, ac rydym wrth ein bodd o fod wedi sefydlu sylfaen gadarn i'n galluogi i dyfu, a chreu system fwyd sydd nid yn unig yn rhoi maeth i'n cymuned ond sydd hefyd yn diogelu ein hamgylchedd ac yn meithrin dyfodol iachach ar gyfer cenedlaethau i ddod."

Mae Cynllun Gwobrwyo Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth bod angen dull cysylltiedig er mwyn creu system fwyd iach a chynaliadwy, gan ddod â phobl sy'n gweithio yn sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat ar draws y system at ei gilydd. Mae'n nodi chwe maes gweithredu allweddol i gyflawni newid sylfaenol yn y system fwyd:

  1. Trefniadau Llywodraethu ar gyfer Bwyd a Strategaeth Fwyd: Mabwysiadu dull strategol a chydweithredol mewn perthynas â llywodraethu a chamau gweithredu'n ymwneud â bwyd da
  2. Mudiad Bwyd Da: Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, dinasyddiaeth fwyd weithgar a mudiad bwyd da lleol
  3. Bwyd Iach i Bawb: Mynd i'r afael â thlodi bwyd, salwch sy'n gysylltiedig â deiet a mynediad at fwyd iach fforddiadwy
  4. Economi Fwyd Gynaliadwy: Creu economi fwyd gynaliadwy sy'n fywiog, ffyniannus ac amrywiol
  5. Arlwyo a Chaffael: Trawsnewid y meysydd arlwyo a chaffael ac adfywio cadwyni cyflenwi bwyd lleol a chynaliadwy
  6. Bwyd i'r Blaned: Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur drwy fwyd a ffermio cynaliadwy a rhoi terfyn ar wastraff bwyd.

Meddai Leon Ballin, Rheolwr Rhaglen Lleoedd Bwyd Cynaliadwy ac un o feirniaid y wobr Aur, "Dim ond lleoedd sydd wedi bod yn gwneud y math o waith y mae Bwyd Caerdydd wedi bod yn ei wneud ers o leiaf ddegawd sy'n gallu ennill gwobr aur, a'r hyn sy'n arbennig o amlwg yng Nghaerdydd yw bod yna fudiad bwyd da cryf ar lawr gwlad yma, y mae pobl yn cymryd rhan ynddo a lle ceir cynrychiolaeth dda iawn o'r cymunedau. Ar ben hynny, ceir cefnogaeth wych gan yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd. Mae gweld y ffyrdd maen nhw'n dod at ei gilydd ac yn gweithio gyda'i gilydd ym mhrifddinas Cymru, yn eithaf rhyfeddol."

Meddai Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rwy'n hynod falch bod ein tîm a'n sefydliad wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o sicrhau bod Caerdydd yn ennill Gwobr Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Roedd Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro yn un o gyd-sylfaenwyr Bwyd Caerdydd yn 2014 ac rydym yn falch iawn o weld faint o waith sydd wedi'i gyflawni dros y deng mlynedd diwethaf, ac rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod pawb yng Nghaerdydd yn gallu cael gafael ar fwyd da."

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: "Bwyd yw un o feysydd ffocws fy strategaeth saith mlynedd, Cymru Can, oherwydd mae mynediad at ddeiet fforddiadwy, iach a chynaliadwy yn hanfodol i lesiant pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol. 

"Mae'r hyn a gyflawnwyd gan Bwyd Caerdydd drwy ddatblygu mudiad bwyd cynaliadwy, sy'n dod â'r llywodraeth, cyrff iechyd cyhoeddus, sefydliadau partner, busnesau a dinasyddion ynghyd, yn enghraifft wych  o'r camau y mae angen i ni eu gweld yn cael eu hefelychu ledled Cymru.

"Llongyfarchiadau i Gaerdydd ar arwain y ffordd wrth dyfu ei safle fel un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy'r DU. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach i ddilyn ôl troed Caerdydd ac i ddatblygu strategaethau hirdymor ar fwyd er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer y wlad fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol" meddai.

Rhaglen bartneriaeth yw Lleoedd Bwyd Cynaliadwy sy'n cael ei harwain gan Gymdeithas y Pridd, Food Matters a Sustain: y gynghrair ar gyfer gwell bwyd a ffermio. Caiff ei hariannu gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.