The essential journalist news source
Back
1.
October
2024.
Gweithiwr sector cyhoeddus Caerdydd yn gwario dim ar betrol ac yn cael ei dalu gan ei gwmni ynni

1.10.24

 

Fel Therapydd Galwedigaethol, mae Reuben Morris yn treulio ei ddyddiau'n gyrru ar strydoedd Caerdydd i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi. Ef yw'r cyntaf i gyfaddef y byddai'n "anodd iawn" gwneud ei waith heb gar - ond chwe blynedd yn ôl, fe wnaeth y dewis gwyrdd a newid i gerbyd trydan a nawr, er gwaethaf y milltiroedd y mae'n eu gwneud bob dydd, dyw e byth yn gwario ceiniog ar betrol.

"Ges i Nissan Leaf rhad ar Gumtree a hynny," eglura Reuben, "oedd fy llwybr i mewn i dechnoleg werdd. Ers hynny, mae wedi dod yn dipyn o ddibyniaeth. Sylweddolais y gallwn ei wefru o baneli solar, ac aeth popeth o'r fan honno. Nawr mae gennym fatris storio a phwmp gwres hefyd ac mae ein cyflenwr ynni'n ein talu ni!"

Reuben, yn gwefru ei gerbyd trydan.

Trafnidiaeth yw achos mwyaf allyriadau carbon yng Nghaerdydd - yn rhoi cyfrif am 35% o'r 1.78 miliwn o dunelli o CO2e sy'n cael ei gynhyrchu yn y ddinas bob blwyddyn, felly mae pob dewis gwyrdd sy'n cael ei wneud gan bobl fel Reuben heddiw - boed hynny'n cerdded neu'n beicio ychydig yn fwy neu'n newid i gerbyd trydan - yn ychwanegu at ddyfodol mwy disglair yfory.

Gyda rhwydwaith cynyddol o ryw 200 o wefrwyr cerbydau trydan sydd ar gael i'r cyhoedd bellach ar gael yng Nghaerdydd, a disgwylir i fwy gael eu cyflwyno fel rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd yn ogystal â chan y sector preifat, mae'r seilwaith i gefnogi cerbydau trydan yn gwella, ond mae Reuben yn cyfaddef iddo fod yn bryderus am bellter batri'r car i ddechrau.

"Prynais y car o Abertawe. Ges i'r trên lan i'w gasglu a'i yrru'n ôl a dwi'n cofio dod nôl a bod yn ofnus iawn na fyddwn yn cyrraedd - ond mae hynny wedi lleihau. Nid wyf erioed wedi rhedeg allan o bŵer mewn 6 blynedd, felly dwi byth yn poeni amdano. Nid yw'n gerbyd trydan â phellter batri arbennig o uchel, ond os nad oes gennych y math hwnnw o swydd, os nad ydych yn gynrychiolydd gwerthu neu rywbeth tebyg, anaml y byddwch yn neidio yn y car ac yn gyrru 300 milltir - mae pob man yng Nghaerdydd yn gwbl hygyrch i mi."

"Dwi'n bragmatig amdano serch hynny - mae gen gerbyd gwersylla sy'n cael ei bweru gan betrol i'w ddefnyddio ar gyfer gwyliau ac ambell daith - ond ni fyddaf yn cael car petrol eto os oes gen i ddewis. Mae'r profiad gyrru yn llawer gwell a dwi'n ddigon ffodus i fod â thramwyfa, felly dwi'n plygio i mewn gartref, yn ei wefru dros nos ac mae gymaint yn fwy cyfleus na defnyddio gorsafoedd petrol."

Gyda cherbyd trydan yn gwneud y rhan fwyaf o'i deithiau car, a chan mai allyriadau domestig o bethau fel goleuadau a gwres yw'r ail ffynhonnell fwyaf o allyriadau yng Nghaerdydd, trodd sylw Reuben at ychwanegu hyd yn oed mwy o dechnoleg werdd i'w gartref.

Nawr, gyda phaneli solar ar ei do a batri i storio'r ynni, ynghyd â phwmp gwres o'r ddaear i gynhesu ei gartref teuluol diwedd teras a adeiladwyd yn y 1970au, mae ei ynni - gan gynnwys gwres, dŵr poeth a thrydan - yn costio tua £10 y mis iddo am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Yna, o fis Mai i fis Awst, pan fydd ei gartref yn cynhyrchu mwy o ynni solar nag y gall ef a'i deulu ei ddefnyddio, mae'r ynni sydd heb ei ddefnyddio'n cael ei allforio i'r Grid Cenedlaethol, ac mae ei gwmni ynni yn ei dalu ef.

Mae hynny i gyd tua £320 o elw ar ynni bob blwyddyn - ynghyd â'r arbedion mae Reuben yn eu gwneud o beidio talu am betrol.

"Mae gen i solar dwyrain-gorllewin, ac nid dyma'r cynllun a argymhellir, ond mae gen i baneli ar ddwy ochr y to ac ar hyn o bryd, rwy'n gwefru fy ngherbyd, yn gwneud fy holl filltiroedd gwaith, fy holl filltiroedd siopa, yr holl ddefnydd sylfaenol o'r car, ac mae gen i ddŵr poeth o'r pwmp gwres ac ar hyn o bryd, "mae'n ychwanegu gyda gwên, "Rwy'n cael tua £100 y mis gan fy nghyflenwr ynni.

"Hyd yn oed yn ystod y gaeaf, pan mae angen i ni fewnforio rhywfaint o drydan o'r grid, mae'r solar yn dal i wneud gwahaniaeth i'n biliau. Nid ydyn ni wedi gorfod newid ein hymddygiad o gwbl, rydyn ni'n byw fel arfer gydag e - yr unig beth rydyn ni wedi'i ddarganfod, diolch i'n mesurydd deallus, yw bod y gawod drydan yn defnyddio cymaint o drydan â gwefru car, felly rydyn ni'n tueddu i gael bath!

"Mae 'na lawer o wybodaeth negyddol ar gael am bympiau gwres, ond maen nhw'n eu defnyddio nhw yn Sgandinafia ac maen nhw'n gweithio - ni sydd yn hwyr i'r parti. Mae'n sicr yn gweithio i'n tŷ ni. Fy mhrofiad i yw ei fod yn llawer mwy cyfforddus, drwy'r amser.

"Dwi'n meddwl am hyn i gyd fel buddsoddiad - ry'n ni'n agosáu at ymddeol ac mae'r syniad y bydd costau ynni yn lleihau wrth i ni fynd yn hŷn yn fonws go iawn."

Mae Cynllun Ynni Ardal Leol Caerdydd yn amcangyfrif, i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sero-net erbyn 2050, y bydd angen gosod 160,000 o bympiau gwres yn y ddinas, ynghyd â 510MW o solar PV ar doeau (sy'n cyfateb i 115,000 o doeau domestig) a 26,000 o wefrwyr cerbydau trydan, mewn tai preifat ac ar dir sy'n hygyrch i'r cyhoedd.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Rydyn ni'n gweithredu ar newid hinsawdd drwy ein strategaeth Caerdydd Un Blaned ond mae angen i bobl ledled y ddinas ymuno â ni i wneud dewisiadau mwy gwyrdd.

"All neb wneud y cyfan, ond gall pawb wneud rhywbeth.  Boed hynny'n dewis yr opsiwn iach o gerdded neu feicio lle bo hynny'n bosib, bwyta mwy o fwyd lleol a chynaliadwy, neu fynd ymhellach a newid i gerbyd trydan neu osod paneli solar neu bwmp gwres yn eich cartref - mae pob dewis gwyrdd bach yn helpu."

I ddarganfod mwy am Caerdydd Un Blaned a gwybodaeth am y ffordd y gallwch wneud dewisiadau mwy gwyrdd ar gyfer dyfodol mwy disglair, ewch i'r wefan www.caerdyddunblaned.co.uk