The essential journalist news source
Back
24.
September
2024.
Cyllid newydd 'Dinas Gerdd Caerdydd' i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad

24.9.24

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cefnogaeth ariannu newydd ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad Caerdydd fel rhan o'i waith 'Dinas Gerdd Caerdydd' i helpu i ddiogelu a gwella sin gerddoriaeth y ddinas, sydd hefyd yn gweld yr Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf erioed yn dechrau yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae'r gronfa, sy'n agored i bob lleoliad llawr gwlad yn y ddinas, yn cynnig grantiau cyfalaf o hyd at £10,000 tuag at wella lleoliadau. 

Band lleol, CVC, yn perfformio yng Nghaerdydd. Clod Jamie Chapman

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae lleoliadau llawr gwlad Caerdydd yn chwarae rhan hanfodol ym myd cerddoriaeth y ddinas.  Maent yn darparu cyfleoedd pwysig i artistiaid lleol ddatblygu ac adeiladu cynulleidfaoedd, gweithredu fel canolbwynt i gymunedau, a helpu i wneud Caerdydd yn lle bywiog a chyffrous yr ydym yn ei hadnabod ac yn ei charu.

"Mae'r gefnogaeth a gynigir gan y gronfa hon, ochr yn ochr â'r gwaith arall sy'n cael ei gyflawni drwy ein strategaeth gerddoriaeth - gan gynnwys Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd newydd, ein cefnogaeth i ailddatblygu Clwb Ifor Bach, cymorth a roddasom i Porters a Sustainable Studios pan oedd angen iddynt ddod o hyd i gartrefi newydd, a'n cynllun datblygu talent newydd Little Gigs - i gyd yn anelu at helpu i sicrhau eu bod yn gallu goresgyn yr heriau sy'n wynebu lleoliadau ledled y DU a pharhau i ffynnu wrth galon sîn gerddoriaeth Caerdydd."

Mae'r Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth y DU.

Am fwy o wybodaeth am Ddinas Gerdd Caerdydd, ewch i: https://dinasgerddcaerdydd.cymru/