24.5.23
Mae cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd wedi'u datgelu i adnewyddu Marchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd a fyddai'n gwarchod, cadw a diogelu'r adeilad rhestredig Gradd II* i'r dyfodol, gan adfer nodweddion dylunio gwreiddiol, a chyflwyno ardal newydd ar y llawr gwaelod ar gyfer bwyd.
Agorwyd y farchnad sy'n gyforiog o hanes ym 1891 ac yn dilyn y gwaith adnewyddu, mae Cyngor Caerdydd, sy'n berchen ar y farchnad, hefyd yn bwriadu cyflwyno a rhannu ei hanes yn well gyda'r 2.2 miliwn o ymwelwyr y mae'n eu denu yno bob blwyddyn, gan ddefnyddio pwyntiau stori gweledol a thafluniadau.
Mae'r cynlluniau, sy'n amodol ar sicrhau cyllid yn llwyddiannus a chaniatâd cynllunio'n cael ei roi, yn cynnwys:
- adfer mynedfeydd Heol y Drindod a Heol Eglwys Fair.
- adfer y to, ffenestri gwreiddiol a'r gweddluniau allanol.
- gosod gwydro a theils newydd.
- adfer tu mewn y farchnad, gan gynnwys gwelliannau i'r stondinau hanesyddol.
- cael gwared ar 'lawr ffug' y 1960au wrth fynedfa Heol y Drindod i ddatgelu'r dyluniad gwreiddiol.
- paneli solar wedi'u gosod ar y to, a storfa fatri integredig.
- atgyweiriadau i gloc marchnad H.Samuel.
- lle bwyta 70 sedd newydd ar y llawr gwaelod.
- ystafell weithgareddau ac addysg newydd.
- gwelliannau draenio.
- gosod goleuadau LED ynni-effeithlon.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae cwsmeriaid wedi bod yn ymweld â Marchnad Caerdydd ers dros ganrif a nod ein cynlluniau adnewyddu helaeth yw sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy i'r adeilad, cadw a gwella ei dreftadaeth, a sicrhau ei fod yn parhau yn ganolfan brysur yng nghanol y ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."
Bydd y farchnad, sy'n gartref i 61 o fusnesau annibynnol eclectig gan gynnwys groseriaid traddodiadol, cigyddion a gwerthwyr pysgod, stondinau bwyd stryd, cynhyrchwyr artisan, dillad, cerddoriaeth a chaledwedd a mwy, yn parhau ar agor gydol cyfnod y gwaith, gyda rhai masnachwyr yn cael eu hadleoli i safle cyfagos ar sail tymor byr dros dro.
Os yn llwyddiannus, mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn haf 2024 ar hyn o bryd a chymryd tua dwy flynedd i'w gwblhau.