17.5.23
Mae Gerddi Cogan, man gwyrdd bach yng nghanol cymuned Cathays, wedi ailagor yn swyddogol i'r cyhoedd yn dilyn gwelliannau mawr.
Ymunodd plant o Ysgol Gynradd Fwslimaidd Caerdydd â chynghorwyr ward lleol, a'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke, ddydd Gwener diwethaf (12 Mai), i ddathlu cwblhau'r gwaith, sy'n rhan o raglen fuddsoddi sy'n parhau gwerth £3.2 miliwn mewn parciau ac ardaloedd chwarae ledled Caerdydd.
Mae'r gwelliannau i'r parc, a ddatblygwyd drwy ymgynghori â'r gymuned leol, yn cynnwys:
- ardal chwarae newydd.
- offer ymarfer corff awyr agored.
- bwrdd gwyddbwyll a chadeiriau.
- biniau newydd a meinciau picnic.
- lawnt, llwyni a dôl newydd.
- llwybrau cerdded a llwybr cerdded cylchol.
- amddiffyn a chadw pob pisgwydden aeddfen.
- adnewyddu'r rheiliau ar hyd y ffiniau.
Dywedodd y Cynghorydd Burke: "Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau hapus yn mwynhau'r gwelliannau i Erddi Cogan. Mae parciau lleol ac ardaloedd chwarae yn hynod o bwysig, gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd bywyd pobl, a dyna pam rydyn ni'n parhau i fuddsoddi ynddyn nhw mewn cymunedau ledled Caerdydd."