Mae disgyblion yn helpu i lunio eu dyfodol wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar adeilad newydd Ysgol y Llys gwerth £23 miliwn
Mae Cyngor Caerdydd yn dathlu cerrig milltir pwysig yn
natblygiad newydd Ysgol y Llys, gyda chyfres o ddigwyddiadau cyffrous a mentrau
ymgysylltu â'r gymuned yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mehefin.
Bydd y prosiect gwerth £23 miliwn, a ddarperir dan Raglen
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn golygu
adeiladu dwy safle ysgol newydd - un yn y Tyllgoed ac un yn Llanrhymni. Mae'r
ysgol newydd, o'r enw Ysgol Cynefin, yn adlewyrchu cysylltiad dwfn rhwng pobl a
byd natur, gan hyrwyddo hunaniaeth a lles.
Mewn partneriaeth â Kier, y contractwr a ddewiswyd i
ddylunio ac adeiladu'r ysgol newydd, mae amrywiaeth o weithgareddau, o weithdai
dylunio ymarferol i ddiwrnod hwyl i'r teulu a'r ddefod o lofnodi'r strwythur,
yn dod â disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach i galon y broses ddatblygu.
Ardal
ymarfer corff newydd yn agor ym Mharc Fictoria
Mae ardal ymarfer corff newydd wedi agor i'r cyhoedd ym
Mharc Fictoria yng Nghaerdydd.
Ynghyd â bariau tynnu i fyny, lifftiau coesau, meinciau
dip, troi teiars a blociau neidio, bydd yr ardal ffitrwydd newydd yn caniatáu i
ymwelwyr â'r parc fynd â'u trefn ymarfer corff i'r lefel nesaf.
Mae'r offer cynnal a chadw isel wedi'i gynllunio i annog
pobl o bob oedran a gallu i roi cynnig ar calistheneg. Mae'n gallu cael ei
ddefnyddio am ddim gan unigolion a dosbarthiadau grŵp o hyd at 20-30 o bobl ar
y tro.
Disgwyl
i'r gwaith i uwchraddio Taith Taf trwy Barc Hailey ddechrau yr hydref hwn
Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i wella llwybrau beicio
ledled y ddinas, bydd gwaith i uwchraddio'r rhan o lwybr Taith Taf trwy Barc
Hailey yn dechrau yn gynnar yn yr hydref.
Yn dilyn dau ymgynghoriad
cyhoeddus, mae adolygiad cynhwysfawr wedi’i gynnal a bydd y cynllun dewisol yn
sicrhau y bydd llwybr y feicffordd newydd yn 3.5 metr o led ac yn dilyn aliniad
y llwybr presennol yn fras. Mae hyn yn sylweddol llai na'r cynnig blaenorol o
lwybr 5 metr o led.
Bydd y llwybr wedi'i
uwchraddio yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio tarmac lliw llwydfelyn i weddu i
leoliad y parcdir, a bydd yn lleihau'r effaith ar fannau gwyrdd, wrth
sicrhau nad yw'r llwybr yn agos at y man chwarae i blant mwyach – mater a gafodd
ei amlygu yn ystod ymgynghoriadau cyhoeddus.
Cyfanwerthwr
bwyd wedi'i garcharu am droseddau hylendid a gwerthu cyw iâr wedi'i gam-labelu
fel halal
Cafodd dau gyfanwerthwr bwyd eu dedfrydu ddoe am werthu cyw
iâr nad yw'n halal fel cyw iâr halal i fusnesau bwyd ledled De Cymru.
Yn Llys y Goron Merthyr
ddoe, anfonwyd Helim Miah i'r carchar am 4 blynedd ac 8 mis am fasnachu
twyllodrus a thorri cyfraith ansolfedd, tra bod Noaf Rahman wedi cael dedfryd o
ddwy flynedd, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i gyflawni 150 awr o waith
di-dâl.
Dilynodd y ddedfryd
ymchwiliad gan Wasanaethau Rheoliadol a Rennir Caerdydd a’r Fro i Universal
Foods (Wholesale) Ltd, sydd wedi'i leoli yng Nghlos Bessemer, Caerdydd.