Cafodd dau gyfanwerthwr bwyd eu dedfrydu ddoe am werthu cyw iâr nad yw'n halal fel cyw iâr halal i fusnesau bwyd ledled De Cymru.
Yn Llys y Goron Merthyr
ddoe, anfonwyd Helim Miah i'r carchar am 4 blynedd ac 8 mis am fasnachu
twyllodrus a thorri cyfraith ansolfedd, tra bod Noaf Rahman wedi cael dedfryd o
ddwy flynedd, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i gyflawni 150 awr o waith
di-dâl.
Dilynodd y ddedfryd
ymchwiliad gan Wasanaethau Rheoliadol a Rennir Caerdydd a’r Fro i Universal
Foods (Wholesale) Ltd, sydd wedi'i leoli yng Nghlos Bessemer, Caerdydd.
Er gwaethaf hyn, gwnaethant
barhau i farchnata a dosbarthu'r cyw iâr fel halal i gwsmeriaid a dwyllwyd.
Yn dilyn yr ymchwiliad,
plediodd Noaf Rahman yn euog i dair trosedd hylendid bwyd tra bod Helim Miah, a
blediodd yn ddieuog, wedi’i erlyn yn ddiweddarach yn Llys y Goron Merthyr ar 11
Ebrill, 2025.
Daeth yr achos i'r amlwg ym
mis Ionawr 2019 pan atafaelwyd 2,840 cilogram o gig wedi'i rewi o 20 Clos
Bessemer yn Grangetown, Caerdydd.
Datgelodd yr ymchwiliad
gyfres o fethiannau, gan gynnwys arferion hylendid bwyd gwael iawn, tystiolaeth
fod dofednod wedi cael ei ddadmer a'i ailrewi, dod o hyd i gyw iâr a oedd ddwy
flynedd heibio ei ddyddiad gwerthu, darganfod nad oedd cofnodion tymheredd yn
cael eu diweddaru, tystiolaeth o weithgarwch plâu yn y busnes, a chludo cig heb
ei farcio mewn cerbydau brwnt nad oeddent yn cynnwys oergell nac yn addas at y
diben.
Yn ystod yr achos pythefnos
o hyd, honnodd Miah ei fod yn rhedeg Universal Food Wholesale Ltd gan
ddefnyddio cyw iâr halal wedi'i brosesu ymlaen llaw yn unig a bod yr holl
brosesu ar y safle yn cael ei wneud gan gwmni ar wahân - Universal Poultry Ltd,
sy'n cael ei redeg gan Rahman.
Gwadodd Miah unrhyw ran yng ngwaith prosesu’r busnes o ddydd i ddydd ond
fe’i cafwyd yn euog o 10 cyhuddiad o werthu cig nad yw’n halal fel cig halal drwy dwyll, camlabelu dyddiadau
dod i ben, anwybyddu rheolau hylendid a methu ag olrhain tarddiadau bwyd – gan
beryglu iechyd ac ymddiriedaeth y cyhoedd.
Wrth ddedfrydu, crynhôdd y Barnwr Francis yr achos gan bwysleisio bod y
twyll wedi cael effaith gymdeithasol amlwg, gan esbonio y byddai cwsmeriaid
wedi cael eu dychryn petaent yn gwybod nad oedd y cig yr oeddent yn ei brynu yn
halal.
O ran hylendid bwyd yn y busnes hwn, dywedodd y Barnwr Francis: "Nid
oedd y cig a atafaelwyd oddi wrthych yn ddiogel, dyna pam y cafodd ei gymryd
oddi wrthych a'i wneud yn fwyd anifeiliaid anwes. Trwy fethu â chadw eich
cwsmeriaid yn ddiogel, roedd hon yn drychineb a oedd yn aros i ddigwydd, ac
mae'n wyrth na ddigwyddodd."
Dywedodd y Cynghorydd Norma
Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
yng Nghyngor Caerdydd: "Bydd y
stori hon yn peri pryder i'n cymuned Fwslimaidd. Mae bwyta halal yn ofyniad yn
y grefydd Islamaidd, ac mae cymryd rhan mewn twyll o'r fath yn dangos
diystyrwch llwyr y dynion hyn tuag at y gymuned.
"Datgelodd yr
ymchwiliad amodau hylendid bwyd gwael iawn a allai fod wedi achosi niwed
difrifol i'w cwsmeriaid.
"Mae'r achos hwn yn
codi cwestiynau pwysig am sut mae cyflenwyr bwyd yn cael eu dwyn i gyfrif am
gywirdeb eu hawliadau halal, yr angen am fwy o ymwybyddiaeth ymhlith
defnyddwyr, a phwysigrwydd gwirio dilysrwydd ardystiadau halal. Os oes gan
unrhyw un bryderon am olrhain y cynhyrchion bwyd maen nhw'n eu prynu gan
gyfanwerthwr, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar 0300 123 6696"