The essential journalist news source
Back
22.
July
2025.
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Gorffennaf 2025
 22/07/25

 Mae dau gi wedi eu mabwysiadu o Gartref Cŵn Caerdydd wedi cael bywyd newydd yn datrys troseddau

Mae dau gi achub a fabwysiadwyd o Gartref Cŵn Caerdydd wedi cael bywyd newydd yn synhwyro troseddau i Heddlu De Cymru.

Mae'r ddau gi, un Sbaengi adara (cocker spaniel) ac un Sbaengi defaid croes (collie spaniel) wedi cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus i ddod o hyd i gyffuriau, arian parod ac olion gynnau ac wedi cael eu trwyddedu fel rhan o adran gŵn Heddlu De Cymru ddydd Mercher diwethaf - Gorffennaf 16, 2025.

Daeth Max, sy'n Sbaengi adara du, i mewn fel ci strae. Yn cael ei adnabod bryd hynny fel "Humbug," dangosodd arwyddion cynnar o ddeallusrwydd, ffocws ac egni - nodweddion a ddenodd sylw Cartref Cŵn Caerdydd. Cafodd Chase, sy'n Sbaengi/ci defaid croes, ddechrau gwahanol. Wedi'i enwi'n wreiddiol yn "Neptune," daeth o dorraid nad oedd ei eisiau ac fe gafodd ei dderbyn yn ddim ond naw wythnos oed gan ei hyfforddwr, a welodd ei botensial ar unwaith.

Dros y chwe wythnos diwethaf, mae'r ddau gi wedi cael hyfforddiant trwyadl mewn synhwyro arbenigol. Fe wnaethon nhw gwblhau tri modiwl gan ennill sgiliau hanfodol a fydd yn helpu i fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol ledled de Cymru.

Darllenwch fwy yma

Beth Nesaf? Cymorth dros yr Haf i Bobl Ifanc sy'n Dewis eu Dyfodol

Wrth i ddiwrnodau canlyniadau Safon Uwch a TGAU ym mis Awst agosáu, bydd pobl ifanc ledled Caerdydd unwaith eto yn cael eu cefnogi gan raglen helaeth o ddigwyddiadau i'w helpu i gymryd eu camau nesaf mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Mae Addewid Caerdydd, y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith a Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn cynnig digwyddiadau, adnoddau ac arweiniad i bobl ifanc 16-24 oed.

Dros yr haf eleni, bydd gohebiaeth yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at ddisgyblion Blwyddyn 11, 12 a 13, gan eu cyfeirio at y gwasanaethau sydd ar gael i'w helpu i gynllunio eu dyfodol.

Darllenwch fwy yma

Maes chwarae cymunedol yn ailagor gyda theyrnged i dreftadaeth stêm Caerdydd

Mae maes chwarae Parc y Sblot wedi ailagor yn swyddogol yn dilyn trawsnewidiad bywiog sy'n cyfuno chwarae cynhwysol ag elfen o hanes lleol.

Mae'r ardal chwarae sydd newydd ei hailddatblygu bellach yn cynnwys parth ar thema posau a gemau, gydag offer hygyrch a mannau chwarae naturiol, gan greu amgylchedd hwyliog a chroesawgar i blant o bob oed a gallu. 

Ymysg y nodweddion newydd mae trên i blant bach, gyda lorïau, gorsafoedd a thraciau - i gyd wedi'u hysbrydoli gan yr annwyl Jessie'r Trên Stêm, a safai'n falch yn y parc ar un adeg.

Gwasanaethodd Jessie, injan stêm tanc cyfrwy 0-6-0 a adeiladwyd ym 1937, yng ngwaith dur East Moors Caerdydd tan 1965, pan drosglwyddodd y safle i bŵer diesel. Yn hytrach na chael ei sgrapio, cafodd Jessie ei adfer yn gosmetig a'i roi i'r ddinas fel cofeb i oes y stêm. Daeth yn nodwedd annwyl ym maes chwarae Parc y Sblot tan 1980, pan gafodd ei werthu i berchennog preifat. 

Darllenwch fwy yma