Strydoedd Glanach ac Ailgylchu Gwell wrth i Gyngor Caerdydd a Myfyrwyr
Ddod Ynghyd – 15/07/2025
Mae Cyngor
Caerdydd wedi gweithio gyda myfyrwyr prifysgol yn Cathays a Phlasnewydd yr haf
hwn mewn ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â gwastraff a hyrwyddo ailgylchu fel
rhan o'r ymgyrch flynyddol 'Myfyrwyr ar Fynd'.
Disgyblion
sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol drwy
Wobr y Celfyddydau – 16/07/2025
Mae grŵp
rhyfeddol o 62 o ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o Ganolfan
Tŷ Calon yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi graddio'n falch gyda Gwobr y
Celfyddydau, gan nodi carreg filltir mewn addysg gelfyddydol gynhwysol yng
Nghaerdydd.
Dirwy o
£640,000 i Asda Stores Ltd am werthu hen fwyd mewn dau leoliad yng Nghaerdydd –
15/07/2025
Mae Asda
Stores Ltd wedi cael gorchymyn i dalu dros £655,000 ar ôl pledio'n euog i
werthu bwyd ar ôl ei ddyddiad defnyddio mewn dwy o'i ganghennau yng Nghaerdydd.
DYDDiau Da
o Haf yn dychwelyd wrth i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd lansio rhaglen
ddigwyddiadau 2025! – 17/07/2025
Mae
Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn ôl gyda DYDDiau Da o Haf 2025,
rhaglen gyffrous, gynhwysol a llawn gweithredu wedi ei chynllunio i rymuso pobl
ifanc 11-25 oed ledled y ddinas.