18/7/2025
Mae maes chwarae Parc y Sblot wedi ailagor yn swyddogol yn dilyn trawsnewidiad bywiog sy'n cyfuno chwarae cynhwysol ag elfen o hanes lleol.
Mae'r ardal chwarae sydd newydd ei hailddatblygu bellach yn cynnwys parth ar thema posau a gemau, gydag offer hygyrch a mannau chwarae naturiol, gan greu amgylchedd hwyliog a chroesawgar i blant o bob oed a gallu.
Ymysg y nodweddion newydd mae trên i blant bach, gyda lorïau, gorsafoedd a thraciau - i gyd wedi'u hysbrydoli gan yr annwyl Jessie'r Trên Stêm, a safai'n falch yn y parc ar un adeg.
Gwasanaethodd Jessie, injan stêm tanc cyfrwy 0-6-0 a adeiladwyd ym 1937, yng ngwaith dur East Moors Caerdydd tan 1965, pan drosglwyddodd y safle i bŵer diesel. Yn hytrach na chael ei sgrapio, cafodd Jessie ei adfer yn gosmetig a'i roi i'r ddinas fel cofeb i oes y stêm. Daeth yn nodwedd annwyl ym maes chwarae Parc y Sblot tan 1980, pan gafodd ei werthu i berchennog preifat.
Mae'r gwaith o ailddatblygu'r maes chwarae wedi'i gyflawni fel rhan o raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau'r Cyngor, wedi'i ffurfio gan ymgynghoriad cymunedol helaeth a mewnbwn gan aelodau ward lleol, a gyda chyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Roedd disgyblion o Ysgol Gynradd Baden Powell gerllaw ymhlith y cyntaf i fwynhau'r gofod wedi'i uwchraddio, gan roi cynnig ar y sleid newydd a'r twmpath dringo, y gylchfan sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, y ffrâm ddringo, y siglenni, a'r si-so.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae'r gwaith uwchraddio hwn wedi adfywio'r parc. Mae'r maes chwarae newydd yn amgylchedd bywiog a chynhwysol i blant o bob oed a gallu i'w fwynhau, ac mae'r deyrnged i Jessie'r Trên yn ychwanegu cyffyrddiad hanesyddol hyfryd sy'n cysylltu'r gorffennol â'r presennol."
Bellach yn ei 25ain flwyddyn, mae Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau'r Cyngor yn parhau i hyrwyddo blaenoriaethau lleol ar gyfer adfywio trwy ariannu gwelliannau amgylcheddol a thir cyhoeddus a gynigir gan aelodau'r ward. Gyda chefnogaeth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a chyllid ychwanegol gan y Cyngor, mae dros £2 filiwn wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau sydd i'w cyflawni eleni.