Dyma’ch diweddariad dydd Gwener, sy’n cynnwys:
·
Strydoedd Glanach ac Ailgylchu Gwell wrth i
Gyngor Caerdydd a Myfyrwyr Ddod Ynghyd
·
Disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol drwy Wobr y Celfyddydau
·
Dirwy o £640,000 i Asda Stores Ltd am werthu
hen fwyd mewn dau leoliad yng Nghaerdydd
· DYDDiau Da o Haf yn dychwelyd wrth i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd lansio rhaglen ddigwyddiadau 2025!
Strydoedd Glanach ac Ailgylchu Gwell wrth i Gyngor Caerdydd a Myfyrwyr Ddod Ynghyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio gyda myfyrwyr prifysgol yn Cathays a Phlasnewydd yr haf hwn mewn ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â gwastraff a hyrwyddo ailgylchu fel rhan o'r ymgyrch flynyddol 'Myfyrwyr ar Fynd'.
Wedi'i lansio ddechrau mis Mehefin, arweiniodd yr ymgyrch at fwy o gasgliadau sbwriel, glanhau strydoedd yn ddyddiol, gwirfoddolwyr yn casglu sbwriel, a defnyddio swyddogion gorfodi gwastraff ychwanegol. Cynhaliodd staff y cyngor wasanaeth allgymorth o ddrws i ddrws i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael ac yn deall sut i reoli eu gwastraff yn briodol.
O ganlyniad i'r ymgyrch, casglwyd mwy na 7,000kg o ddeunydd ailgylchu - cynnydd o 700kg o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn cynnwys 849kg o eitemau amldro, 318kg o fwyd a roddwyd i Fanc Bwyd Caerdydd, a 5,964kg o wastraff ailgylchu cyffredinol.
Disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ennill cydnabyddiaeth genedlaethol drwy Wobr y Celfyddydau
Mae grŵp rhyfeddol o 62 o ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o Ganolfan Tŷ Calon yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi graddio'n falch gyda Gwobr y Celfyddydau, gan nodi carreg filltir mewn addysg gelfyddydol gynhwysol yng Nghaerdydd.
Mae'r cyflawniad ysbrydoledig hwn yn ganlyniad cydweithrediad deinamig rhwng Tîm Cwricwlwm Cyngor Caerdydd, y Tîm Amhariadau, Pasbort i’r Ddinas, a UCAN (Unique Creative Arts Network) Productions.
Bellach yn ei hail flwyddyn, dechreuodd y rhaglen yn 2023/24 fel peilot ar gyfer 10 dysgwr gydag amhariad ar eu golwg, yn dilyn dewis UCAN fel elusen faer gan y Maer ar y pryd Bablin Molik. Ers hynny mae wedi tyfu i fod yn fenter gynhwysfawr sy'n cefnogi dros 62 o ddysgwyr ar draws chwe grŵp.
Dirwy o £640,000 i Asda Stores Ltd am werthu hen fwyd mewn dau leoliad yng Nghaerdydd
Mae Asda Stores Ltd wedi cael gorchymyn i dalu dros £655,000 ar ôl pledio'n euog i werthu bwyd ar ôl ei ddyddiad defnyddio mewn dwy o'i ganghennau yng Nghaerdydd.
Roedd yr achos yn dilyn cwynion cwsmeriaid, gan ysgogi swyddogion o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) i gynnal archwiliadau mewn dwy archfarchnad Asda yng Nghaerdydd ar chwe achlysur gwahanol rhwng Ionawr a Mehefin 2024
Yn ystod yr ymweliadau hyn, darganfuwyd bod mwy na 100 o eitemau bwyd wedi mynd heibio i'w dyddiad defnyddio a chawsant eu tynnu oddi ar y silffoedd. Roedd y siopau yr effeithiwyd ym Mharc Manwerthu Capital, ar Heol Lecwydd, ac Archfarchnad Pentwyn, yn Heol Dering, Pontprennau.
Canfuwyd bod rhai o'r cynhyrchion bwyd hyd at saith diwrnod ar ôl eu dyddiad defnyddio, gyda llawer yn cael eu gwerthu fel eitemau parod i'w bwyta. Roedd nifer o'r cynhyrchion hyn yn amlwg yn cael eu marchnata tuag at blant, gan godi pryderon am ddiogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr.
DYDDiau Da o Haf yn dychwelyd wrth i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd lansio rhaglen ddigwyddiadau 2025!
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn ôl gyda DYDDiau Da o Haf 2025, rhaglen gyffrous, gynhwysol a llawn gweithredu wedi ei chynllunio i rymuso pobl ifanc 11-25 oed ledled y ddinas.
Yn
rhedeg o ganol mis Gorffennaf i ddiwedd mis Awst, mae'r rhaglen eleni yn
adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol gydag ystod ehangach fyth o
gyfleoedd cyffrous. O anturiaethau awyr agored a gweithdai creadigol i
brofiadau digidol a chynnal cynlluniau cyfnewid ar gyfer pobl ifanc, mae
rhywbeth at ddant pawb.