Mae Caeau’r Gored Ddu wedi ailagor i'r cyhoedd yn dilyn cyngherddau diweddar Blackweir Live.
Mae rhywfaint o waith yn dal i fynd rhagddo i gael gwared ar ffensys, ond disgwylir i'r safle cyfan fod yn glir erbyn diwedd heddiw - 18 Gorffennaf.
Mae'r mesurau amddiffynnol a roddwyd ar waith yn ystod digwyddiadau Blackweir Live wedi gweithio'n dda ac mae'r glaswellt, gan gynnwys y caeau criced, mewn cyflwr da iawn yn gyffredinol.
Nawr bod yr ardal wedi ailagor i'r cyhoedd, bydd gwaith yn dechrau i ail-hadu unrhyw ddarnau bach o laswellt sydd wedi treulio ac adfer unrhyw ardaloedd o bridd sydd wedi cywasgu, os oes angen. Fel rhan o'r cytundeb bond a roddwyd ar waith cyn y digwyddiadau, bydd y costau hyn yn cael eu talu gan weithredwr y digwyddiad.
Yn amodol ar y tywydd,
dylai'r glaswellt ddychwelyd i'w gyflwr cyn y cyngerdd o fewn yr wythnosau
nesaf.