The essential journalist news source
Back
17.
July
2025.
DYDDiau Da o Haf yn dychwelyd wrth i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd lansio rhaglen ddigwyddiadau 2025!

17/7/2025

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn ôl gyda DYDDiau Da o Haf 2025, rhaglen gyffrous, gynhwysol a llawn gweithredu wedi ei chynllunio i rymuso pobl ifanc 11-25 oed ledled y ddinas.

Yn rhedeg o ganol mis Gorffennaf i ddiwedd mis Awst, mae'r rhaglen eleni yn adeiladu ar lwyddiant y blynyddoedd blaenorol gydag ystod ehangach fyth o gyfleoedd cyffrous. O anturiaethau awyr agored a gweithdai creadigol i brofiadau digidol a chynnal cynlluniau cyfnewid ar gyfer pobl ifanc, mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae uchafbwyntiau rhaglen 2025 yn cynnwys:

                     Anturiaethau Awyr Agored: Gweithgareddau cyffrous fel caiacio, dringo creigiau, a cherdded ceunentydd yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms

                     Gwersyll Haf Creu Ffilmiau: Mae Crewyr Cynnwys Caerdydd yn dychwelyd gyda'u gwersyll poblogaidd i bobl ifanc 11-17 oed.

                     Cynlluniau Cyfnewid ar gyfer Pobl Ifanc: Bydd Caerdydd yn croesawu dau grŵp yr haf hwn. Un o Ysgol Uwchradd Carlsbad yng Nghaliffornia, sy'n cynnig profiadau creu ffilmiau dan arweiniad cyfoedion ac un arall o Stuttgart, yn dathlu dros bum degawd fel y cynllun cyfnewid ar gyfer pobl ifanc mwyaf hirsefydlog yn Ewrop.

                     Clybiau Ieuenctid ledled y ddinas: Mannau diogel, croesawgar sy'n cynnig coginio, celf a chrefft, gemau cyfrifiadurol a chwaraeon.

                     Cymorth Un i Un ar gyfer Pobl sy'n Gadael Blwyddyn 11: Helpu pobl ifanc i bontio'n hyderus i'w pennod nesaf.

                     Gweithdai Entrepreneuriaeth: Sesiynau ysbrydoledig gyda Syniadau Mawr Cymru.

                     Digwyddiadau Cymunedol a Chystadleuol: Gan gynnwys twrnamaint pêl-droed, her "It's a Knockout" ym Mro Morgannwg, a digwyddiad Esports gydag awdurdodau cyfagos.

                     Ras ar draws Caerdydd: Her hwyliog, yn seiliedig ar sgiliau sy'n hyrwyddo byw'n annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Mae DYDDiau Da o Haf yn parhau i dyfu bob blwyddyn, gan gynnig cyfle i bobl ifanc o bob cefndir archwilio diddordebau newydd, magu hyder, a chreu atgofion parhaol.

"Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi ein pobl ifanc, ac mae rhaglen yr haf hwn yn ddathliad o'u creadigrwydd, eu cynhwysiant a'u hysbrydoliaeth i ymgysylltu ag ieuenctid y ddinas."

P'un a yw pobl ifanc eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, cwrdd â phobl newydd, neu gael hwyl yr haf hwn, mae DYDDiau Da o Haf yn gyfle unigryw i gysylltu, creu a thyfu.

Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i: https://www.cardiffyouthservices.wales/cy/events/