The essential journalist news source
Back
14.
July
2025.
Gwasanaethau Chwarae Plant yn lansio gwefan newydd i gefnogi cyfleoedd chwarae i deuluoedd Caerdydd
 
14/7/25  

Mae Gwasanaethau Chwarae Plant Cyngor Caerdydd wedi lansio gwefan newydd sbon i wneud cyfleoedd chwarae ledled y ddinas yn fwy hygyrch i deuluoedd.

Mae'r wefan newydd – https://gwasanaethauchwaraeplantcaerdydd.co.uk/ – yn dod â gwybodaeth ynghyd am yr ystod eang o sesiynau chwarae mynediad agored a chaeedig, rhaglenni cynhwysol, adnoddau a mentrau dan arweiniad y gymuned sydd ar gael i gefnogi lles a datblygiad plant trwy chwarae.

Mae datblygiad y wefan gan Wasanaethau Chwarae, sy’n rhan o Wasanaethau Plant, yn cyd-fynd â gweledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor – gan gefnogi'r nod o wneud Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu drwy wneud cyfleoedd chwarae'n fwy hygyrch, cynhwysol a chynaliadwy.

Mae'r wefan yn cynnig profiad lliwgar, hawdd ei ddefnyddio lle gall teuluoedd weld beth sydd ar gael ledled y ddinas. Mae nodweddion allweddol y wefan yn cynnwys calendr o sesiynau chwarae wythnosol ac yn ystod y gwyliau, cyfle i gofrestru ar gyfer sesiynau chwarae, manylion am y Rhaglen Chwarae Gynhwysol i blant 5 i 14 oed ag anableddau ac anghenion ychwanegol, a gwybodaeth am Strydoedd Chwarae – y fenter sy'n galluogi trigolion i wneud cais i gau eu stryd i draffig am ddwy awr y mis i greu mannau chwarae diogel yn yr awyr agored.

Gall ymwelwyr â'r wefan gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau diweddaraf ar gyfer digwyddiad Diwrnod Chwarae eleni ym mis Awst.

Mae Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd, y crynodeb diweddaraf o ddarpariaeth chwarae Caerdydd, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, hefyd ar gael ar y dudalen ‘Amdanom ni’.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   “Mae chwarae yn hanfodol i lesiant a datblygiad pob plentyn. Gyda lansiad ein gwefan Gwasanaethau Chwarae Plant newydd, rydym yn ei gwneud hi'n haws nag erioed i deuluoedd ledled Caerdydd ddarganfod a chael mynediad i'r ystod eang o gyfleoedd chwarae sydd ar gael yn eu cymunedau.

 “Mae hyn yn ymwneud â chreu mannau diogel, cynhwysol a chroesawgar lle gall plant ffynnu.”

Archwiliwch y wefan newydd heddiw: https://gwasanaethauchwaraeplantcaerdydd.co.uk/ a dilynwch Wasanaethau Chwarae Plant ar Facebook: @CardiffChildrensPlayServices i gael diweddariadau rheolaidd.