11/7/25
Dyma’ch diweddariad dydd Gwener, sy’n cynnwys:
·
Cyngor
Caerdydd yn lansio ymgyrch fawr i recriwtio gofalwyr maeth yng nghanol galw
cynyddol
· £2 filiwn o gyllid i natur yng
Nghaerdydd
· Mannau diogel i barcio beiciau i gael eu
cyflwyno ledled y ddinas
· Dyddiad i’r dyddiadur: Diwrnod Chwarae
Cenedlaethol Caerdydd 2025
·
Creu Caerdydd Decach: Ceisiadau ar agor
am grant urddas mislif i gefnogi cymunedau
Cyngor Caerdydd yn lansio ymgyrch fawr i
recriwtio gofalwyr maeth yng nghanol galw cynyddol
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu strategaeth newydd feiddgar i fynd i'r afael â'r angen brys am ragor o ofalwyr maeth yn y ddinas, gan gynnig cymorth ariannol a grantiau gwella cartrefi i ofalwyr maeth, gofalwyr sy'n berthnasau, a gwarcheidwaid arbennig er mwyn helpu i ddarparu cartrefi mwy diogel, sefydlog a chariadus i blant a phobl ifanc.
Mae'r Cyngor yn annog trigolion i ystyried dod yn ofalwyr maeth prif ffrwd, gydag angen arbennig am y rheini sy'n gallu cefnogi grwpiau brodyr a chwiorydd a phlant hŷn. Mae gofalwyr maeth prif ffrwd yn darparu gofal i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gysylltiedig â nhw, yn wahanol i ofalwyr sy'n berthnasau neu ofalwyr maeth Unigolion Cysylltiedig sydd wedi'u cymeradwyo i ofalu am blentyn penodol, fel arfer aelod o'r teulu neu ffrind agos.
Mae'r Polisi Addasiadau ac Estyniadau newydd yn cyd-fynd ag ymrwymiad Caerdydd i Agenda Dileu Elw Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal ac ailfuddsoddi arian cyhoeddus mewn gwasanaethau cynaliadwy, cymunedol.
£2 filiwn o gyllid i natur yng
Nghaerdydd
Bydd prosiectau i gynnal natur yng Nghaerdydd yn derbyn hwb ariannol o £2 filiwn drwy gynllun 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur'.
Bydd cyllid dwy flynedd Llywodraeth Cymru yn galluogi'r Cyngor i barhau â'i waith, drwy Bartneriaeth Natur Leol Caerdydd, i gefnogi adferiad natur ac ymgysylltu â'r gymuned ar gyflawni gwelliannau strategol i seilwaith gwyrdd ac ymdrechion cadwraeth ymarferol ledled y ddinas.
Mannau diogel i barcio beiciau i gael eu
cyflwyno ledled y Ddinas
Bydd y cam cyntaf o ddarparu mannau newydd i barcio beiciau’n ddiogel yng nghanol dinas Caerdydd yn dechrau ar 1 Awst, gyda'r chwe uned feicio ddiogel gyntaf wedi'u gosod gan Gastell Caerdydd i'r cyhoedd ac ymwelwyr eu defnyddio.
Wedi'u hariannu gan
y Gronfa Teithio Llesol, Caerdydd Un Blaned a'r Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer
Natur, bydd cyfanswm o 30 o unedau yn cael eu darparu ym mis cyntaf y cynllun.
Dilynir hyn gan raglen 5 mlynedd i osod rhagor o unedau ar draws canol y ddinas
ac mewn ardaloedd siopa lleol.
Bydd gan yr holl
unedau cychwynnol doeau byw, a fydd yn darparu manteision amgylcheddol
sylweddol trwy wella bioamrywiaeth mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas.
Dyddiad i’r dyddiadur: Diwrnod Chwarae
Cenedlaethol Caerdydd 2025
Gwahoddir teuluoedd ledled Caerdydd i ymuno yn nathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2025 ym mis Awst.
Bydd y digwyddiad am ddim eleni yn cael ei gynnal ar gaeau chwarae Canolfan Hamdden y Dwyrain ddydd Mercher 6 Awst, 1 – 4pm a'r thema yw Mannau i Chwarae.
Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ledled y DU ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst. Mae'r thema eleni yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol mannau hygyrch a chynhwysol lle mae plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i chwarae'n rhydd, treulio amser a chysylltu â ffrindiau – a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o'u cymuned.
Creu Caerdydd Decach: Ceisiadau ar agor
am grant urddas mislif i gefnogi cymunedau
Gwahoddir sefydliadau'r trydydd sector ledled Caerdydd i wneud cais
am gyllid grant i gefnogi mynediad gwell at nwyddau mislif urddasol,
cynaliadwy, am ddim, yn y ddinas.
Mae ceisiadau ar gyfer Grant Urddas Mislif 2025–26, menter sy’n
cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o sicrhau bod nwyddau mislif
ar gael i'r rhai sydd eu hangen, bellach ar agor ac mae cyllid hyd at £2,000
fesul sefydliad ar gael i gefnogi'r prynu a dosbarthu nwyddau mislif
ecogyfeillgar, deunyddiau addysgol, ac eitemau hylendid hanfodol.
Yn y DU, ni all un o bob 10 merch fforddio prynu nwyddau mislif,
wrth i un o bob 7 gael trafferth eu fforddio, yn ôl arolwg cynrychioliadol o
ferched a menywod ifanc 14-21 oed. Nod y Grant Urddas Mislif yw mynd i'r afael
â'r anghydraddoldeb hwn yn uniongyrchol, drwy sicrhau nad oes neb yng
Nghaerdydd yn cael ei adael heb y nwyddau sydd eu hangen arnynt.