9.7.25
Bydd prosiectau i gynnal natur yng Nghaerdydd yn derbyn hwb ariannol o £2 filiwn drwy gynllun 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur'.
Bydd cyllid dwy flynedd Llywodraeth Cymru yn galluogi'r Cyngor i barhau â'i waith, drwy Bartneriaeth Natur Leol Caerdydd, i gefnogi adferiad natur ac ymgysylltu â'r gymuned ar gyflawni gwelliannau strategol i seilwaith gwyrdd ac ymdrechion cadwraeth ymarferol ledled y ddinas.
Gwirfoddolwyr garddio Cymdeithas Llandaf a Chwrt Insole yn plannu planhigion, wedi'i ariannu gan Bartneriaeth Natur Leol Caerdydd. Diolch i: Partneriaeth Natur Leol Caerdydd
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae'r cyllid ychwanegol hwn o £2 filiwn yn golygu y byddwn yn gallu parhau i gymryd camau ymarferol yn lleol i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur sy'n wynebu Cymru a thu hwnt."
Y llynedd, helpodd Partneriaeth Natur Leol Caerdydd dros 50 o ysgolion a grwpiau cymunedol i welliannau bioamrywiaeth, creu cynefin newydd ar Wlyptiroedd Afon Rhymni, ymuno â phrosiect monitro draenogod ledled y DU, hyfforddi gwirfoddolwyr i gynnal arolygon monitro glaswelltir, cynyddu plannu sy'n gyfeillgar i beillwyr, a phrynu offer i gynorthwyo â rheoli cynefinoedd.