1/7/ 2025
Mae disgyblion o dair ysgol yng Nghaerdydd wedi helpu i greu murlun newydd beiddgar ym Mharc y Sblot, sy'n dathlu menywod ym maes chwaraeon ac ymgyrch EURO 2025 Cymru sydd ar ddod.
Mae'r paentiad enfawr o Jess Fishlock, seren pêl-droed Cymru a anwyd yng Nghaerdydd, wedi ei gomisiynu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru cyn i'r twrnamaint gychwyn yn y Swistir ar 2 Gorffennaf 2025.
Mae Ysgol Gynradd Baden Powell, Ysgol Gynradd Moorland ac Ysgol Uwchradd Willows wedi chwarae rhan ganolog yn y prosiect, gan weithio gydag artistiaid mewn cyfres o weithdai a oedd yn archwilio themâu hunaniaeth, cymuned a chwaraeon.
Rhoddodd y sesiynau, gyda chefnogaeth Tîm Cwricwlwm Caerdydd, gyfle i ddisgyblion ddylunio a hyd yn oed helpu i baentio'r murlun ochr yn ochr â'r artistiaid lleol Yusuf a Shawqi o Unify Creative. Bydd gwaith celf unigol y disgyblion hefyd yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa gymunedol ehangach.
Yn bresennol yn nadorchuddiad y murlun oedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry, a ymunodd â phobl ifanc o'r ardal ar gyfer y gic gyntaf swyddogol ar y cae newydd ei drawsffurfio.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hon wedi bod yn enghraifft wych o sut y gall addysg, chwaraeon a'r celfyddydau ddod ynghyd i ysbrydoli pobl ifanc.
"Mae wedi bod yn wych gweld brwdfrydedd y disgyblion tuag at y prosiect a'r balchder maen nhw wedi'i ddangos mewn helpu i greu rhywbeth mor ystyrlon. Mae'n ddathliad nid yn unig o bêl-droed merched a thîm merched Cymru yn cyrraedd gemau'r Euros am y tro cyntaf erioed, ond o'u creadigrwydd a'u hysbryd cymunedol eu hunain hefyd. Bydd y murlun yn atgoffa'r holl bobl ifanc y gallant freuddwydio'n fawr a mynd yn bell ac wrth gwrs gallai un o'r merched ifanc sy'n chwarae ar yr AChA heddiw fod yn aelod o dîm Cymru yn y dyfodol."