The essential journalist news source
Back
1.
July
2025.
Sialens Ddarllen yr Haf 'Gardd o Straeon' ar fin blodeuo yng Nghaerdydd
1/7/25

Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled Caerdydd yn paratoi i lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni, gan wahodd plant i gamu i fyd hudolus natur ac adrodd straeon ar thema 2025: 
Gardd o Straeon – Anturiaethau ym Myd Natur a'r Awyr Agored.

 

Wedi'i chynhyrchu gan yr Asiantaeth Ddarllen, mae 'Sialens Ddarllen yr Haf 2025: Gardd o Straeon' yn dechrau ar 5 Gorffennaf ac mae'n rhan o haf llawn gweithgareddau am ddim sy'n addas i deuluoedd yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd. Bydd plant yn cael eu hannog i archwilio llyfrau a straeon newydd wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau creadigol, wedi'u hysbrydoli gan fyd natur trwy gydol y gwyliau, wrth iddynt archwilio'r cysylltiad rhwng darllen a'r awyr agored, lle mae natur a dychymyg yn dod at ei gilydd.

 

Ar gyfer plant 4 i 11 oed, mae'r Sialens yn cynnig ffordd gefnogol a llawn hwyl o gadw meddyliau ifanc yn sionc dros yr haf. O sesiynau crefftau ac adrodd straeon awyr agored i lwybrau natur a chwarae dychmygus, mae rhywbeth i bob darllenydd ifanc ei fwynhau. Mae plant yn gallu tracio eu cynnydd darllen ac ennill gwobrau ar hyd y ffordd, gan gynnwys sticeri, popwyr buwch goch cota, a melinau gwynt.

 

Mae'r Sialens eleni yn cynnwys darluniau hudolus gan yr artist arobryn Dapo Adeola, sy'n dod â'r Ardd o Straeon yn fyw gyda chreaduriaid, planhigion a blodau hudolus i danio dychymyg plant.

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn fenter wych sy'n ysgogi plant, yn ennyn eu chwilfrydedd ac yn eu cadw i ddysgu trwy gydol gwyliau'r haf. Trwy annog darllen rheolaidd, mae'n helpu i atal 'dip yr haf' – dirywiad cyffredin o ran gallu darllen yn ystod yr egwyl o'r ysgol.

"Yn ogystal â chefnogi llythrennedd a datblygiad iaith, mae’r sialens yn rhoi hwb i hyder a dychymyg plant a’u cariad at straeon. Gorau oll, mae'n cynnig ffordd bleserus am ddim i deuluoedd archwilio llyfrau gyda'i gilydd, bod yn greadigol a hyd yn oed cysylltu â natur trwy weithgareddau a digwyddiadau thematig."

 

Bydd plant sy'n cofrestru yn derbyn pecyn cychwynnol ac yn casglu gwobrau am bob llyfr maen nhw'n ei ddarllen. Bydd pawb sy'n cwblhau'r Sialens yn derbyn medal, tystysgrif a melin wynt liwgar i ddathlu eu cyflawniad.

 

Mae'r Sialens yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddi ac yn agored i bawb. Ewch i'ch llyfrgell neu’ch hyb lleol o 5 Gorffennaf 5, neu cofrestrwch ar-lein yn: https://sialensddarllenyrhaf.org.uk