The essential journalist news source
Back
1.
July
2025.
Lleisiau Ifanc yn arwain y ffordd yn Rhaglen Cenhadon Democratiaeth Caerdydd

 

1/7/2025

Mae disgyblion o bedair ysgol yng Nghaerdydd - Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Ysgol Uwchradd Cathays, ac Ysgol Bro Edern, wedi cymryd rhan mewn taith ysgol fel rhan o Raglen Cenhadon Democratiaeth Caerdydd - gan ennill profiad uniongyrchol o sut mae democratiaeth leol yn gweithio yng Nghymru. 

 

Wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno mewn cydweithrediad â Thîm Addysg y Senedd, roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr ymweld â Neuadd y Sir a'r Senedd.  Mae'r rhaglen yn rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Caerdydd i hyrwyddo ymgysylltu dinesig ymhlith pobl ifanc.

 

Yn ystod yr ymweliad, cafodd y disgyblion hyfforddiant ymwybyddiaeth wleidyddol, cyfle i ddysgu am swyddogaethau'r Senedd, a chymryd rhan mewn ffug etholiad gan bleidleisio o blaid ehangu'r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth i bob ysgol.

 

Fe wnaethant hefyd edrych ar sut mae Cyngor Caerdydd yn gweithredu, gan gynnwys sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud a sut mae'r Cyngor yn sicrhau atebolrwydd, tryloywder ac ymgysylltu gweithredol.  Cafodd y disgyblion gyfle i baratoi a chyflwyno areithiau ar faterion sy'n bwysig iddynt mewn cyfarfod cyngor ffug a gadeiriwyd gan Arglwydd Faer Caerdydd.

 

Ymgysylltodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, yn uniongyrchol â'r myfyrwyr, gan ateb eu cwestiynau ac annog eu diddordeb mewn bywyd dinesig.  "Mae'n braf gweld pobl ifanc yn cymryd diddordeb yn y broses ddemocrataidd," meddai'r Cynghorydd Merry.  "Mae'r profiadau hyn yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o ddinasyddion gwybodus a gweithredol. Byddant yn deall yn well sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud sy'n siapio eu bywydau, a sut i ddylanwadu arnynt. Un diwrnod gallan nhw fod yn eistedd yn siambr y Cyngor neu'r Senedd yn gwneud y penderfyniadau hynny hefyd."

 

Ychwanegodd Arglwydd Faer Caerdydd, "Roeddwn yn falch iawn o groesawu'r ysgolion i Neuadd y Sir.  Mae'n bwysig cefnogi mentrau fel y Rhaglen Cenhadon Democratiaeth. Mae'n hanfodol bod ein pobl ifanc yn deall sut y gall eu lleisiau lunio dyfodol ein dinas."

 

Mae'r Cyngor yn awyddus i estyn y gwahoddiad i ysgolion eraill ar draws y ddinas i ddysgu mwy am ddemocratiaeth leol. Os ydych chi'n gynrychiolydd ysgol ac eisiau dysgu mwy am y rhaglen Cenhadon Democratiaeth, ewch i borth Democratiaeth CaerdyddRhaglen Cenhadon Democratiaeth - Democratiaeth Caerdydd