Mae landlord wedi cael ei ddedfrydu am "ddiystyru'r gyfraith yn ddigywilydd" sy'n ymwneud ag eiddo a oedd wedi'i rentu yn Heol y Plwca, Caerdydd.
Cafodd Mohammed Abdul
KowsorChoudhury, o Gyncoed, Caerdydd, a'i
gwmni, Pine Best Ltd, ddirwy o gyfanswm o £54,000, ynghyd â £10,000 pellach
mewn costau, pan glywyd yr achos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun (Mehefin
16).
Mae'r eiddo rhent - 173
Heol y Plwca - yn eiddo Fictoraidd tri llawr gydag uned fasnachol ar y llawr
gwaelod, ond er mai dim ond caniatâd cynllunio ar gyfer 6 fflat hunangynhwysol
oedd ganddo, daethpwyd o hyd i 11 o fflatiau hunangynhwysol yn yr eiddo.
Mae'r erlyniadau sy'n
ymwneud â'r eiddo hwn yn dyddio'n ôl i fis Mawrth 2018, pan ymwelodd swyddogion
o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir â'r eiddo a darganfod 11 o fflatiau.
Gwnaed Gorchymyn Gwahardd Brys ar gyfer pob fflat oherwydd y rhagofalon diogelwch
tân gwael iawn, a oedd yn golygu na ellid meddiannu'r eiddo mwyach, gan eu bod
yn cael eu hystyried yn anniogel.
Yn 2019, erlynodd
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Choudhury am fethu â chydymffurfio â hysbysiad
gorfodi i wneud gwaith hanfodol ar y fflatiau hyn. Cafodd ddirwy o £50,000,
gorchmynnwyd iddo dalu £10,000 mewn costau a chafodd ddedfryd o garchar wedi'i
ohirio.
Ym mis Hydref 2022,
derbyniwyd adroddiadau bod y fflatiau'n cael eu rhentu allan eto ac nad oedd y
gwaith a oedd yn ofynnol gan y Gorchmynion Gwahardd Brys wedi'i wneud.
Lansiwyd ymchwiliad
pellach, ac yna sawl gwrandawiad yn y llys.
O'r diwedd ym mis Gorffennaf 2024, plediodd Choudhury a'i gwmni'n euog
i'r holl droseddau a chafodd yr achos ei glywed yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd
Llun (16 Mehefin 2025).
Cafodd y llys wybod am
euogfarn flaenorol Mr Choudhury am yr eiddo hwn, yn ogystal ag euogfarnau am
ladrad, anonestrwydd ac ymosodiad, a'r ffaith ei fod wedi parhau i ail-osod
fflatiau yn yr eiddo wrth iddynt ddod yn wag.
Wrth ddedfrydu, disgrifiodd
y Barnwr Rhanbarth Christoper James y busnes fel "dull a grëwyd gan y
diffynnydd at ddibenion cyflwyno menter o gyfreithlondeb" a nodweddodd y
cyfrifon ariannol fel rhai "amheus". Gwnaeth y Barnwr Rhanbarth yn
glir ei fod yn ystyried methiant Choudhury i gydymffurfio â'r hysbysiadau
gorfodi fel ymgais fwriadol i "ennill elw oddi wrth bobl a oedd yn daer am
dai, gyda rhenti tua £600 y mis fesul fflat."
Disgrifiodd y Barnwr
Choudhury fel un a "anwybyddwyd deddfwriaeth a gofynion cyfreithiol mewn
perthynas â’r eiddo hyn yn ddigywilydd ac yn fwriadol."
Dywedodd y Cynghorydd Lynda
Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:
"Mae'r eiddo hwn wedi bod yn bryder sylweddol ers blynyddoedd lawer
bellach a gobeithio bod Mr Choudhury bellach yn deall beth sy'n rhaid iddo ei
wneud i sicrhau ei fod yn gallu rhentu ei eiddo'n gyfreithiol, yn unol â'r holl
ddeddfwriaeth sy'n ofynnol.
Mae mwyafrif landlordiaid y sector preifat yn darparu gwasanaeth
da i’w tenantiaid, ond yn anffodus mae yna
rai nad ydynt yn ystyried gwneud hyn o gwbl. Yn anffodus, mae’n Landlordiaid
fel Mr Choudhury sydd, fel y dywedodd y barnwr, yn anwybyddu deddfwriaeth yn
ddigywilydd ac yn dwyn anfri ar y sector.