Bydd cyfres o gyngherddau’n cael eu cynnal yng Nghaeau’r Gored Ddu ar lannau Afon Taf yng Nghaerdydd yr haf hwn, o 27 Mehefin i 9 Gorffennaf.
Er mwyn sicrhau bod pawb sy'n
mynychu'r cyngherddau yn gallu mynd i mewn ac allan o'r lleoliad yn ddiogel,
bydd ffyrdd ar gau yng nghanol dinas Caerdydd o 4pm tan hanner nos ar gyfer y
digwyddiadau hyn.
Mae'r digwyddiadau fel a ganlyn:
Noah Kahan – Dydd Gwener
27 Mehefin
Alanis Morrisette – Dydd
Mercher 2 Gorffennaf
Slayer – Dydd Iau 3
Gorffennaf
Stevie Wonder – Dydd
Mercher 9 Gorffennaf
Mae disgwyl i draffordd yr M4
fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn - felly cynlluniwch ymlaen llaw.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf
am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu
@TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy'n mynd i’r cyngherddau
hyn gynllunio eu taith o flaen llaw a chyrraedd Caerdydd yn gynnar.
Mae atebion i rai cwestiynau cyffredin am y cyngherddau
Blackweir Live sydd ar ddod ar gael yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/35607.html
Cau ffyrdd
Ar
gyfer yr holl gyngherddau, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4pm a hanner nos
i hwyluso'r digwyddiadau hyn.
·
Stryd y Castell gyfan o’i
chyffordd â Heol y Porth
·
Heol y Dug a Ffordd y
Brenin
·
Heol y Gogledd o'r gyffordd
â Heol Colum ar ei hyd i Boulevard De Nantes; Boulevard de Nantes wrth y
gyffordd â Phlas y Parc (Bydd mynediad i fysiau a thacsis/preswylwyr yn cael ei
reoli i Heol y Brodyr Llwydion)
·
Heol Ddwyreiniol y
Bont-faen o Heol y Gadeirlan drwodd i'r gyffordd â Heol y Porth gyda mynediad i
Heol y Porth yn cael ei ganiatáu.
Canolfan Ddinesig
Bydd mynediad i ran o'r
Ganolfan Ddinesig yn cael ei reoli drwy gydol y dydd o 7am.
Dyma'r ffyrdd yr effeithir
arnynt: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas,
Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Bydd y troad i'r dde o Heol
Colum i mewn i Heol Corbett yn cael ei atal hefyd dros yr amseroedd cau ffyrdd
i ganiatáu a rheoli mynediad i drigolion / busnesau oddi ar Heol Corbett.
Trenau
Mae Trafnidiaeth Cymru a
Great Western Railway wedi cyhoeddi cyngor teithio i bawb sy'n mynychu
cyngherddau yng Nghaerdydd ar y trên yr haf hwn - https://news.gwr.com/news/get-ready-to-rock-cardiff-essential-travel-tips-for-this-summers-hottest-concerts
Mae
cwsmeriaid yn cael eu hatgoffa i gynllunio eu taith ymlaen llaw, caniatáu amser
ychwanegol i ddal trên adref yn ddiogel, a gwirio amser eu trên olaf adref
- https://www.journeycheck.com/tfwrail/
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Does
dim cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a
Choetsys)
Cyrraedd
yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4,
ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan
ddinesig.
Cost:
£20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar
gael nawr.
Amseroedd parcio:
Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am 12 hanner nos.
Parcio ar
Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi
Sophia (ceir)
(Taith
gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio
ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd
yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost:
£20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amseroedd
parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd
Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo
personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus
lleol:
Caiff
gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch
i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws
penodol.
Ar
gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar
gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am
ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National
Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd
y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar
agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond bydd Beicffordd Heol y
Gogledd yn cael ei dargyfeirio i hwyluso'r gwaith o osod a datgymalu ar gyfer y
digwyddiad. Ar ddiwrnodau cyngherddau bydd gwyriadau byr ar waith ar hyd llwybr
amgen tebyg i’r ddau gyfeiriad. Bydd arwyddion clir ar gyfer pob gwyriad.
Parcio i Siopwyr
Mae
meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa
Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries
a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Cynghorir
gyrwyr anabl i barcio yn y Ganolfan Ddinesig yn yr ardal parcio digwyddiad
bwrpasol â thâl, fodd bynnag, mae parcio Bathodyn Glas ar gael ar sail y cyntaf
i'r felin ar hyd Plas y Parc / Maes yr Amgueddfa.