The essential journalist news source
Back
18.
June
2025.
Peidiwch â cholli eich pleidlais – trigolion yng Nghaerdydd yn cael eu hannog i wirio manylion cofrestru pleidleiswyr
18/06/25

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i wirio eu manylion cofrestru etholiadol neu wynebu’r posibilrwydd o golli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mae'r canfas blynyddol yn galluogi Cyngor Caerdydd i gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i ganfod pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau a’u hannog i gofrestru cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Dywedodd Paul Orders, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghaerdydd:“Cadwch lygad allan am ddiweddariadau pwysig gan Gyngor Caerdydd. Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o sicrhau bod yr wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir ac yn ddiweddar. Er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn colli’r cyfle i ddweud eich dweud mewn unrhyw etholiadau sydd ar ddod yng Nghymru, gan gynnwys etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch.

“Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos yn y diweddariadau rydym yn eu hanfon. Os ydych am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”

Atgoffir trigolion bod pobl ifanc 16 oed a hŷn yn gymwys i bleidleisio yn etholiad y Senedd a fydd yn cael ei gynnal ar 7 Mai, 2026, ond rhaid iddynt gofrestru er mwyn gallu defnyddio eu pleidlais. Gall pobl ifanc gofrestru i bleidleisio pan fyddant yn 14 oed ac yn hŷn felly dylai aelwydydd sydd â phreswylwyr cymwys sicrhau bod yr unigolion hyn yn cael eu cynnwys yn y wybodaeth y maent yn ei darparu i'r Cyngor. 

Mae’r rheiny sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn arbennig yn cael eu hannog i wirio eu manylion. Mae ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol wedi canfod bod y rhai sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar yn llawer llai tebygol o fod wedi'u cofrestru na'r rheiny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am amser hir. Yng Nghymru, bydd 95% o’r rheiny sydd wedi byw yn eu cartref am 16 mlynedd yn gofrestredig, o gymharu â 53% o bobl sydd wedi byw mewn cyfeiriad am lai na blwyddyn.

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol: “Mae'n bwysig iawn bod pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Rydym yn annog pobl i gadw llygad allan am ddiweddariadau gan eu cyngor lleol ar ganfasiad eleni. Gall y cyngor gysylltu â thrigolion drwy’r post neu e-bost.

“Os nad ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’ch cyngor lleol pan ofynnir i chi wneud hynny a chofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”