Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau (CAC) ar gyfer 2025, gan danlinellu ei ymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn cymunedau ledled y ddinas.
Bellach yn ei 25ain
flwyddyn, mae'r rhaglen yn hyrwyddo blaenoriaethau lleol trwy ariannu
gwelliannau amgylcheddol a chyhoeddus a gynigir gan aelodau ward lleol ar gyfer
eu hardaloedd. Nod y prosiectau hyn yw
gwella cymdogaethau a gwella ansawdd bywyd trigolion, ac fe'u cynlluniwyd a'u
cyflwyno mewn partneriaeth â busnesau lleol, preswylwyr a grwpiau cymunedol.
Gyda chefnogaeth gan Arian
Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn ogystal â chyllid y Cyngor, mae mwy na
£2m wedi'i sicrhau ar gyfer y cynlluniau eleni.
Mae'r fenter yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni gweledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor, gan gefnogi creu cymunedau diogel, hyderus a grymus ledled y brifddinas.
Eleni, cyflwynwyd 27 o syniadau prosiect gan gynghorwyr lleol ac aseswyd pob cynnig yn erbyn meini prawf allweddol gan gynnwys effaith adfywio, cynaliadwyedd, mynd i'r afael ag anfantais, cyfranogiad cymunedol, a chyflawnadwyedd.
O ganlyniad, mae naw prosiect adfywio cymunedol wedi'u blaenoriaethu i'w cyflawni'n llawn yn 2025/26, gyda phedwar prosiect ychwanegol wedi'u dewis ar gyfer gwaith cwmpasu a dylunio.
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman: "Mae'r Rhaglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau yn rhan hanfodol o'n hymrwymiad i adeiladu cymunedau cryfach a mwy bywiog ledled Caerdydd. Mae'r prosiectau hyn yn adlewyrchu blaenoriaethau trigolion lleol a byddant yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol i fannau cyhoeddus, ardaloedd chwarae, ac amgylcheddau siopa.
"Ers i'r rhaglen ddechrau yn 2000, mae cyfanswm o 127 o brosiectau adfywio lleol wedi cael eu cyflawni'n llwyddiannus ar draws y ddinas. Rydym yn falch o barhau i fuddsoddi mewn cymdogaethau lle mae ei angen fwyaf."
Y naw prosiect a gymeradwywyd i'w cwblhau yw:
• Glan-yr-afon - Gwelliannau amgylcheddol manwerthu Heol
y Gadeirlan Isaf
Gwella amgylchedd ac
ymarferoldeb yr ardal o amgylch y siopau ar gyffordd Stryd Neville a Gerddi
Despenser.
• Llanrhymni - Gwelliannau i siopau Rhodfa Countisbury
Gwella'r amgylchedd
presennol y parêd hwn, sydd â lefelau meddiant uchel ac sy'n cael ei
defnyddio'n dda, gan gynnig amrywiaeth o siopau a gwasanaethau hanfodol i
gymuned Llanrhymni, Tredelerch a Throwbridge gerllaw
• Grangetown - Gwelliannau i bennau strydoedd
Gwelliannau ardal gyhoeddus
i'r ardaloedd o amgylch Merches Place a phennau'r ffyrdd cyfagos.
• Caerau - Uwchraddio Ardal Chwarae
Maes chwarae / man agored
newydd i breswylwyr. Mae'r maes chwarae presennol yn Heol yr Eglwys wedi cael
ei fandaleiddio dro ar ôl tro ac nid yw'n weithredol ar hyn o bryd.
• Ystum Taf - Adleoli’r AChA ym Mharc Hailey
Symud yr Ardal Chwaraeon Aml-Ddefnydd
bresennol i leoliad amgen a chreu cyfleuster modern, cynhwysol a hygyrch.
• Y Tyllgoed - Adnewyddu maes chwarae Chorley Close
Uwchraddio'r maes chwarae
yn Chorley Close, sydd wedi dadfeilio. Gallai'r gwelliannau gynnwys offer ac
arwyneb newydd, i ddarparu cyfleuster chwarae o ansawdd uchel i deuluoedd lleol
yn yr ardal
• Cathays -Gwelliannau a Gwaith Celf AChA i
gyffordd Gelligaer Street / Heol y Maendy
Ehangu'r palmentydd a
chulhau'r ffordd wrth y gyffordd lydan, ar Heol y Maendy / Gelligaer Street.
Bydd hyn yn hwyluso croesfannau mwy diogel, diogelwch cerddwyr a chyfle i
ychwanegu gwyrddni. Cyfle i ychwanegu
gwaith celf at AChAau ym Mharc y Maendy a gwella diogelwch trwy osod mynedfa
ychwanegol
• Rhiwbeina - Gwelliannau i ardal gyhoeddus y pentref
Adnewyddu'r strydlun yn
ardal siopa Pentref Rhiwbeina
• Y Mynydd Bychan - Gwelliannau i Ardal Gyhoeddus Siopau
Llwynbedw
Gwelliannau i'r ardal
gyhoeddus ar Heol Caerffili i greu canolfan siopa leol fwy croesawgar a
chynaliadwy.
Darganfyddwch fwy am y
Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau, gan gynnwys prosiectau'r gorffennol a'r rhai
cyfredol yma: Ein Prosiectau