The essential journalist news source
Back
17.
June
2025.
Y Diweddariad: 17 Mehefin 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau'r Haf yn Stadiwm Principality
  • Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd 2025
  • Cledrau Croesi Caerdydd yn bwriadu darparu'r cyswllt tram cyntaf erbyn 2028
  • Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu llwyddiant cenedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd 2025

 

Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau'r Haf yn Stadiwm Principality

Bydd cyfres o gyngherddau yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality yr haf hwn, o 19 Mehefin hyd at 1 Awst. Er mwyn sicrhau bod pawb sy'n mynychu'r cyngherddau yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel, bydd y ffyrdd o amgylch y stadiwm ar gau yn llwyr o 3pm tan hanner nos ar gyfer pob digwyddiad.

19 Mehefin - Chris Brown

23 Mehefin - Lana Del Ray

4 Gorffennaf a 5 Gorffennaf - Oasis

11 a 12 Gorffennaf - Stereophonics

19 Gorffennaf - Kedrick Lamar

1 Awst - Catfish and the Bottlemen

Ac eithrio cyngherddau Oasis, pan fydd y gatiau'n agor am 4pm, bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 5pm ar gyfer y cyngherddau hyn.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - i osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon - CF11 0JS.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a'r cefnffyrdd, ewch i  wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy'n mynd i'r cyngherddau hyn i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ar  principalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd 2025

Cymysgwch Farchnad Ffermwyr gydag amrywiaeth o fwyd stryd blasus, ychwanegwch gerddoriaeth fyw o'r bandstand a lleoliad glannau Bae Caerdydd ar ddechrau'r haf ac mae gennych rysáit ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd 2025.

Bydd gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru yn cael ei chynnal yn y Basn Hirgrwn o ddydd Gwener 27 Mehefin i ddydd Sul 29 Mehefin ac yn addo bod yn wledd i'r synhwyrau.

Yn newydd i'r ŵyl eleni, bydd 'Packed' yn coginio brechdanau cig eidion Eidalaidd yn arddull Chicago, yn diferu â grefi a phicl giardiniera sbeislyd. Bydd dewisiadau newydd i'w blasu yn 'The Yorkshire Kitchen' fydd yn cyflwyno menyn melys a sawrus wedi'u gwneud â llaw i Fae Caerdydd yr holl ffordd o Swydd Efrog. Mae 'Devil's Bridge Rum' yn newydd-ddyfodiad arall i'r ŵyl. Byddant yn arddangos eu rỳm sbeislyd, anarferol, wedi'i ddistyllu yng Nghymru ac wedi'i drwytho â sbeisys Bara Brith.

Yn fwy cyfarwydd i fynychwyr rheolaidd yr ŵyl, ond yr un mor flasus, fydd y byns wedi'u stemio yn llawn llenwadau wedi'u gweini gan 'Bao Selecta.' Bydd Lilo's yn dod â'u pasta artisan unwaith eto, wedi'i wneud â llaw ym Mhencoed gan ddefnyddio'r blawd gorau. I'r rhai sydd â dant melys, bydd tartenni cwstard Portiwgaleg clasurol wedi'u pobi yng Nghaerdydd ar gael gan 'The Artisan.'

Darllenwch fwy yma

 

Cledrau Croesi Caerdydd yn bwriadu darparu'r cyswllt tram cyntaf erbyn 2028

Mae uchelgais Caerdydd i drawsnewid ei thrafnidiaeth gyhoeddus yn cyflymu, gan dargedu cwblhau cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd erbyn 2028 - mewn pryd i'r ddinas groesawu ymwelwyr fel un o letywyr Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop UEFA.

Mae'r garreg filltir hon yn gam mawr ymlaen i Gledrau Croesi Caerdydd, sydd â'r nod o ddarparu system dramiau fodern sy'n cysylltu Plasdŵr yng ngogledd-orllewin y ddinas â'r orsaf drenau Parcffordd newydd arfaethedig yn y dwyrain.

Wedi'i gefnogi gan £100 miliwn o gyllid ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, bydd cam cyntaf y prosiect yn dechrau gyda chyswllt tram newydd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd y tram hwn yn helpu i gludo ymwelwyr i arena dan do 15,000 sedd arfaethedig Caerdydd ac oddi yno, yn ogystal â chludo gweithwyr, trigolion lleol ac ymwelwyr rhwng y Bae a chanol y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu llwyddiant cenedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd 2025

Mae Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu llwyddiant go arbennig yn Eisteddfod yr Urdd 2025 ar ôl cystadlu yn yr ŵyl ddiwylliannol Gymraeg fawreddog.

Cymerodd cyfanswm o 20 o ddisgyblion ran yn rowndiau cychwynnol y cystadlaethau llefaru unigol ar draws grwpiau oedran gwahanol, yn ogystal ag yn y categori "Perfformio Golygfa". Arddangosodd perfformwyr ifanc yr ysgol ddawn ac ymroddiad eithriadol, gan gyflawni canlyniadau rhagorol ar bob cam o'r gystadleuaeth.

Ymhlith y perfformiadau unigol nodedig oedd perfformiad Heather, disgybl Blwyddyn 4 a oedd yn fuddugol yn rownd leol y categori Llefaru Unigol ar gyfer Blynyddoedd 3 a 4. Fe wnaeth perfformiad huawdl Heather sicrhau le iddi yn y rownd ranbarthol, lle daeth hi'n drydydd.

Daeth llwyddiant mwyaf nodedig yr ysgol gan driawd o Flwyddyn 6 - Lily-Mae, Martha, a Sophie, a gystadlodd yn y categori "Perfformio Golygfa". Fe wnaeth eu darn, Craig y Nos, a ysgrifennwyd gan Brianna Moore a Dylan James, swyno cynulleidfaoedd wrth bortreadu grŵp o ffrindiau yn archwilio'r Castell Craig y Nos dirgel a hanesyddol, sy'n enwog am ei gysylltiad ag Adelina Patti, cantores opera o'r 19eg ganrif.

Darllenwch fwy yma