Mae uchelgais Caerdydd i drawsnewid ei thrafnidiaeth gyhoeddus yn cyflymu, gan dargedu cwblhau cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd erbyn 2028 – mewn pryd i'r ddinas groesawu ymwelwyr fel un o letywyr Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop UEFA.
Mae'r garreg filltir hon yn gam mawr ymlaen i Gledrau Croesi Caerdydd, sydd â’r nod o ddarparu system dramiau fodern sy'n cysylltu Plasdŵr yng ngogledd-orllewin y ddinas â’r orsaf drenau Parcffordd newydd arfaethedig yn y dwyrain.
Wedi'i gefnogi gan £100 miliwn o gyllid ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, bydd cam cyntaf y prosiect yn dechrau gyda chyswllt tram newydd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd y tram hwn yn helpu i gludo ymwelwyr i arena dan do 15,000 sedd arfaethedig Caerdydd ac oddi yno, yn ogystal â chludo gweithwyr, trigolion lleol ac ymwelwyr rhwng y Bae a chanol y ddinas.
Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Newid Hinsawdd: “Mae Cledrau Croesi Caerdydd yn gynllun beiddgar ac uchelgeisiol i ddarparu system dramiau newydd i’r ddinas – un a fydd yn y pen draw yn ymestyn o ogledd-orllewin y ddinas i’r dwyrain, gan gysylltu â’r orsaf Parcffordd arfaethedig. Gyda buddsoddiad pellach, ein nod yw creu gwasanaeth tramiau traws-ddinas dibynadwy a fforddiadwy a fydd yn cysylltu rhai o gymunedau Caerdydd â'r rhwydwaith rheilffyrdd am y tro cyntaf.
“Mae hwn yn fuddsoddiad hirdymor yn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd – sydd wedi'i gynllunio nid yn unig i symud pobl, ond i drawsnewid sut maen nhw'n symud. Er bod cost y rhan hon yn adlewyrchu graddfa'r gwaith, bydd rhywfaint o'r cyllid yn mynd tuag at wella mannau cyhoeddus ac integreiddio llwybrau cerdded a beicio. Pwrpas hyn yw adeiladu system drafnidiaeth wyrddach, fwy cynaliadwy – yn debyg i’r rhai sydd eisoes yn gweithredu mewn dinasoedd fel Manceinion, Nottingham a Chaeredin.”
Yn dilyn yr ymgynghoriad â’r cyhoedd a rhanddeiliaid yr hydref diwethaf, mae'r Cyngor wedi ystyried yr adborth a gafwyd yn ofalus ac wedi gwneud nifer o newidiadau i ddyluniad y cynllun. Mae’r diweddariadau allweddol fel a ganlyn:
·
Bydd rhan ogleddol Stryd
Bute, sy'n teithio tuag at Fae Caerdydd, yn parhau i fod ar agor i draffig er
mwyn sicrhau mynediad gwell i'r ffordd rhwng Butetown a Bae Caerdydd
·
Ymrwymiad i grwpiau
mynediad a chynhwysiant er mwyn parhau i ymgysylltu trwy'r broses ddylunio
fanwl
·
Mwy o blannu a seilwaith
gwyrdd ar Sgwâr Callaghan
·
Llwybrau bysiau gwell ar
Heol y Tollty a bae aros newydd i fysiau ar Stryd y Parc.
Dywedodd
Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn parhau i
weithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd ar gynlluniau cyffrous i ddarparu
tramffordd newydd sbon rhwng gorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Bae Caerdydd.
Mae'r cynlluniau hyn yn cyd-fynd â’r gwaith o gyflawni trawsnewidiad lein Bae
Caerdydd, a fydd yn caniatáu gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio
trenau tram newydd sbon.
“Ein
huchelgais yw y bydd y dramffordd newydd yn cyfrannu at rwydwaith trafnidiaeth
mwy cynaliadwy i Gaerdydd, a fydd yn annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref a
dewis ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio yn eu lle.
“Rydym
yn ddiolchgar am y cyfraniadau a gawsom gan ein cymunedau yn yr ymgynghoriad
cyhoeddus a gynhaliwyd yn ôl yn yr hydref. Bydd yr adborth hwn yn hanfodol i'n
helpu i lunio'r prosiect hwn fel y gallwn ddarparu tramffordd gyhoeddus y mae
pobl yn falch ohoni.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth
Heidi Alexander: "Mae'r prosiect hwn yn nodi cynnydd gwirioneddol o ran
darparu trafnidiaeth wyrddach, well i Gaerdydd. Bydd y Cledrau Croesi’n ei
gwneud hi'n haws i bobl symud o gwmpas y ddinas ac yn agor cyfleoedd newydd ar
gyfer swyddi, busnes a thwf.
"Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â
gwella trafnidiaeth ym mhob rhan o'r DU fel rhan o'n Cynllun Newid a dyna pam
rydyn ni'n buddsoddi o leiaf £445 miliwn mewn prosiectau rheilffyrdd yng
ngogledd a de Cymru yn unig. Gyda cham un i gael ei gwblhau yn 2028, mae
Caerdydd ar y trywydd iawn at ddyfodol cryfach, mwy cysylltiedig."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a
Gogledd Cymru, Ken Skates, “Mae Cledrau Croesi Caerdydd yn brosiect
uchelgeisiol ac arloesol sy’n cysylltu canol y ddinas â’r Bae. Rwy’n falch bod
Cyngor Caerdydd nawr yn bwrw ymlaen â’r gorchmynion cyfreithiol i wireddu’r
cynllun."
Fel rhan o'r broses gyflawni, mae Cyngor Caerdydd yn ceisio gorchymyn o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 i awdurdodi adeiladu a gweithredu cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd – gan gysylltu Caerdydd Canolog â Bae Caerdydd.
Pwrpas y Gorchymyn arfaethedig yw rhoi i Gyngor Caerdydd y pwerau cyfreithiol sydd eu hangen ar gyfer y seilwaith angenrheidiol. Rhaid i benderfyniad i gymeradwyo gwneud cais am orchymyn gael ei gefnogi gan Gyngor Caerdydd yn gyntaf – cyn ei gyflwyno i Weinidogion Cymru drwy asiantaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Bydd cyflwyniad yn cael ei roi yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol ar 12 Mehefin, cyn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Iau, 19 Mehefin. Bydd y Cabinet wedyn yn gwneud argymhelliad i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ddydd Iau, 26 Mehefin. Os caiff ei gymeradwyo gan y Cyngor, bydd cais am y gorchymyn yn cael ei drefnu i'w gyflwyno ym mis Gorffennaf 2025. Ar ôl gwneud cais, bydd dogfennau'r cais ar gael i'w harchwilio o dan Reoliadau manwl sy'n llywodraethu hyrwyddo gorchmynion o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi ynglŷn â chyfnod gwrthwynebu o 42 diwrnod lle bydd modd gwneud sylwadau mewn perthynas â'r cais.
Mae'n debygol y bydd y broses ymgeisio yn cymryd tua 12 mis ac os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn, dylai gwasanaethau tram fod yn weithredol erbyn 2028. Nodir isod rai o gerrig milltir penodol y prosiect:
·
Haf 2025: dechrau’r gwaith
o ymchwilio i'r safle a pharatoi’r tir
·
Diwedd 2025: cwblhau'r
dyluniad manwl
·
Gwanwyn 2026: dechrau
gwaith galluogi priffyrdd a gwaith tir cyhoeddus
·
Diwedd 2026: dechrau
adeiladu trac y tram a'r platfformau cysylltiedig yng Nghaerdydd Canolog
·
2028: Cwblhau'r holl waith
seilwaith
· Haf 2028: system yn weithredol
Mae'r prosiect i ddod â Chledrau Croesi i Fae Caerdydd yn cael ei gynllunio i gael ei gyflawni mewn dau gam.
Cam 1a: Caerdydd Canolog i Orsaf Bae Caerdydd
Wedi'i ariannu'n llawn, y cam hwn yw testun y cais arfaethedig am orchymyn o
dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992. Mae'n cynnwys ailddatblygu'r
rhwydwaith priffyrdd o amgylch Sgwâr Callaghan er mwyn cysylltu'r tram-drenau â
rheilffordd bresennol Bae Caerdydd. Mae hefyd yn cynnwys platfform tram-drenau
newydd yng Nghaerdydd Canolog.
Bydd y cynllun yn gwella cysylltedd i gerddwyr a beicwyr gyda beicffordd ar
wahân newydd yn cysylltu Caerdydd Canolog â Sgwâr Callaghan, a newidiadau i
fynediad traffig ar hyd Rhodfa Bute a rhan isaf Heol Eglwys Fair.
Cam 1b: Gorsaf Bae Caerdydd i Stryd Pen y Lanfa
Heb ei ariannu eto, mae’r cam hwn, a fyddai'n destun cais yn y dyfodol am
bwerau i'w adeiladu, yn cynnig estyn y llinell dramiau trwy ardal y Rhodres a
Stryd Pen y Lanfa, yn ogystal ag adeiladu croesfannau newydd i gerddwyr a
beicffordd ar wahân a fyddai’n cysylltu Roald Dahl Plass â'r arena dan do
newydd.