11/6/2025
Mae Ysgol Y Berllan Deg yn Llanedern wedi cael ei chanmol yn ei harolygiad diweddaraf gan Estyn gyda chydnabyddiaeth i arweinyddiaeth gref yr ysgol, ei chymuned gynhwysol a'i hymroddiad i feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol trwy gyfrwng Cymraeg.
Wrth wraidd llwyddiant yr ysgol, canfu'r arolygwyr bod arweinyddiaeth bwrpasol a thîm staff ymroddedig sy'n ymrwymedig i greu awyrgylch gofalgar, ysbrydoledig a pharchus. Mae'r pennaeth a'r tîm arwain wedi gosod cyfeiriad strategol clir, gan feithrin cymuned ysgol hapus a chynhwysol sy'n gwerthfawrogi parch a hunaniaeth Gymraeg.
Mae'r adroddiad yn nodi bod disgyblion yn dangos ymddygiad aeddfed, parchus ac ymdeimlad cryf o gymuned. Mae amgylchedd feithringar yr ysgol yn sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei gefnogi, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da gydol eu hamser yn yr ysgol. Mae disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi'n arbennig o dda, gan elwa o gydweithrediad agos rhwng staff a gwasanaethau allanol.
Mae staff wedi cael eu canmol am ddarparu profiadau dysgu diddorol a chreadigol, gan gynnwys ymweliadau addysgol a phrosiectau celfyddydau perfformio a nodwyd bod gwersi ysgogol yn darparu ar gyfer ystod eang o alluoedd wedi cael eu cynllunio. Mae'r ymdrechion hyn yn arwain at ddisgyblion sydd yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu a balchder yn eu hysgol.
Mae'r ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar hyrwyddo'r Gymraeg, o fewn yr ysgol ac yn y cartref, drwy raglenni cymorth i rieni. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd hefyd yn cael eu datblygu'n effeithiol drwy gyfleoedd dysgu ymarferol ac mae llywodraethwyr yn cael eu canmol am eu cyfranogiad gweithredol ac am hyrwyddo manteision addysg Gymraeg o fewn y gymuned ehangach.
Mae'r adroddiad yn nodi meysydd ar gyfer datblygu y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu. Maent yn cynnwys:
- Cryfhau arweinyddiaeth strategol a gwella hunanwerthuso a chynllunio er mwyn cryfhau a sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth
- Darparu cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu a'u datblygu fel dysgwyr annibynnol
- Sicrhau cysondeb mewn arferion addysgu effeithiol ar draws yr ysgol a chodi disgwyliadau staff i ddarparu her gyson i bob disgybl
Dwedodd Mari Phillips, Pennaeth yr ysgol: "Rydym wrth ein bodd bod Estyn wedi cydnabod ethos cynnes a gofalgar ein hysgol. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn meithrin ein holl blant, llawer ohonynt ddim yn siarad Cymraeg pan fyddant yn cyrraedd trwy ein drysau am y tro cyntaf. Rydym wedi dangos, trwy anogaeth gadarnhaol mewn amgylchedd ysbrydoledig, y gall ein holl blant ddod yn ddefnyddwyr hyderus o'r Gymraeg. Mae ein disgyblion yn ymddwyn yn dda ac yn gwneud cynnydd da ar draws y cwricwlwm ac rydym yn arbennig o falch o'u gallu i ddefnyddio mathemateg i ddatrys problemau bywyd go iawn."
Dwedodd Dirprwy Arweinydd Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae adroddiad Estyn yn adlewyrchu ymroddiad staff, a brwdfrydedd y disgyblion ac yn cydnabod yn glir ymrwymiad yr ysgol i ddarparu addysg Gymraeg o ansawdd uchel sy'n cefnogi datblygiad a lles pob plentyn.
"Dylai'r ysgol deimlo'n falch o'r amgylchedd feithringar a chynhwysol sydd wedi'i sefydlu a gall edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a gwneud gwelliannau fel yr argymhellir gan Estyn."
Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol y Berllan Deg 388 o ddisgyblion ar y gofrestr, mae 5.7% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 1.7% o ddisgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol ac mae 33.3% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.