The essential journalist news source
Back
10.
June
2025.
Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu llwyddiant cenedlaethol yn Eisteddfod yr Urdd 2025

 10/6/2025

Mae Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu llwyddiant go arbennig yn Eisteddfod yr Urdd 2025 ar ôl cystadlu yn yr ŵyl ddiwylliannol Gymraeg fawreddog.

Cymerodd cyfanswm o 20 o ddisgyblion ran yn rowndiau cychwynnol y cystadlaethau llefaru unigol ar draws grwpiau oedran gwahanol, yn ogystal ag yn y categori "Perfformio Golygfa". Arddangosodd perfformwyr ifanc yr ysgol ddawn ac ymroddiad eithriadol, gan gyflawni canlyniadau rhagorol ar bob cam o'r gystadleuaeth.

Ymhlith y perfformiadau unigol nodedig oedd perfformiad Heather, disgybl Blwyddyn 4 a oedd yn fuddugol yn rownd leol y categori Llefaru Unigol ar gyfer Blynyddoedd 3 a 4. Fe wnaeth perfformiad huawdl Heather sicrhau le iddi yn y rownd ranbarthol, lle daeth hi'n drydydd.

Daeth llwyddiant mwyaf nodedig yr ysgol gan driawd o Flwyddyn 6 - Lily-Mae, Martha, a Sophie, a gystadlodd yn y categori "Perfformio Golygfa". Fe wnaeth eu darn, Craig y Nos, a ysgrifennwyd gan Brianna Moore a Dylan James, swyno cynulleidfaoedd wrth bortreadu grŵp o ffrindiau yn archwilio'r Castell Craig y Nos dirgel a hanesyddol, sy'n enwog am ei gysylltiad ag Adelina Patti, cantores opera o'r 19eg ganrif.

Ar ôl dod yn ail yn y rownd leol, aeth y triawd ymlaen i'r gystadleuaeth ranbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle'r oeddent yn fuddugol. Daeth eu taith i ben gyda pherfformiad buddugoliaethus yn y Rowndiau Cenedlaethol ym Mharc Margam, lle cawsant eu coroni fel y gorau yng Nghymru.

Dywedodd Mrs Annie James, Dirprwy Bennaeth Gweithredol yr ysgol: "Rydym yn hynod falch o bob un o'r plant, yn enwedig llwyddiant cenedlaethol y merched. Maen nhw wedi gweithio mor galed i ddysgu'r olygfa ac i berfformio'r ddrama i safon mor wych. Maen nhw'n glod i'r ysgol ac rydyn ni'n falch iawn o fod wedi ennill ar lefel genedlaethol, sy'n gyflawniad go iawn."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae llwyddiant Ysgol Gynradd Pentyrch yn Eisteddfod yr Urdd nid yn unig wedi dod â balchder i'r ysgol ond hefyd wedi tynnu sylw at bŵer y celfyddydau mewn addysg a phwysigrwydd dathlu diwylliant Cymru.

"Mae ymrwymiad disgyblion i ddysgu a pherfformio yn Gymraeg yn ysbrydoliaeth go iawn, ac mae ennill ar lefel genedlaethol yn gyflawniad anhygoel ac yn brawf o'u gwaith caled a'u talent."

Ysgol Gynradd Pentyrch a ymunodd â 21 o ysgolion a sefydliadau addysgol eraill Caerdydd i ddathlu llwyddiannau yn Eisteddfod eleni;Ysgol Y Wern, Ysgol Glan Ceubal, Ysgol Treganna, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Ysgol Gynradd Gwaelod Y Garth, Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Ysgol Gynradd Creigiau, Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Ysgol Bro Eirwg, Bishop Of Llandaff Church In Wales High School, Ysgol Pen Y Pil, Willows High School, Ysgol Glan Ceubal, Cardiff High School,  Cardiff West Community High School, Rhydypenau Primary School, Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, Ysgol Mynydd Bychan, Uned Drochi Iaith Caerdydd.