06/06/25
Mae cymuned sglefrio Caerdydd yn dathlu agor parc sglefrio 1,000m newydd2.
Dyluniwyd parc sglefrio 'East Side', drws nesaf i Ganolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni, gan yr ymgynghorwyr ardderchog VDZ+A a Newline Skateparks mewn ymgynghoriad â'r gymuned sglefrfyrddio leol ac mae'n cynnwys cyfres o rampiau, cluniau, cyrbiau, lleiniau a rheiliau yn ogystal â pibell chwarter.
Sglefriwr yn mwynhau'r parc sglefrio newydd
Dywedodd seren Dirty Sanchez a'r sglefrfyrddiwr brwd Matt Pritchard: "Dyma'r hyn sydd ei angen arnom yng Nghaerdydd. Dwi'n 52 nawr, a phan ddechreuais sglefrfyrddio, doedd dim byd gyda ni yng Nghaerdydd, felly mae cael cyfleusterau fel hyn yn wych. Mae'n dda iawn i'r plant hefyd, yn enwedig nawr bod sglefrfyrddio yn y Gemau Olympaidd ac yn cael ei gymryd o ddifrif. Chwarae teg i Gyngor Caerdydd, maen nhw wedi gwneud gwaith anhygoel, ac mae'n braf eu gweld yn buddsoddi mewn sglefrfyrddio yng Nghaerdydd."
Dywedodd Stuart Maclure, Rheolwr Datblygu yn Betongpark, y cwmni a helpodd i gynllunio ac adeiladu'r parc sglefrio: "Mae'r parc sglefrio yn arwyddocaol iawn i'r gymuned yma - mae wedi disodli hen barc. Mae'n gyfleuster o'r radd flaenaf mewn gwirionedd. Mae'n eang iawn, gyda phob math o wahanol elfennau parc sglefrio. Agwedd arall sy'n gwneud y parc yn unigryw yw'r llifoleuadau, er mwyn i bobl ei ddefnyddio trwy gydol y gaeaf a chyda'r nos."
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Dyma'r parc sglefrio cyntaf i gael ei adeiladu fel rhan o'n strategaeth sglefrfyrddio newydd ac mae eisoes yn profi i fod yn boblogaidd iawn gyda chymuned sglefrio'r ddinas.
"Mae'r sîn sglefrio yng Nghaerdydd yn fywiog ac amrywiol iawn - mae gennych chi blant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau, yr holl ffordd drwodd i sglefrwyr hŷn sydd bellach yn cyflwyno eu plant eu hunain i'r hyn sydd bellach yn gamp Olympaidd. Mae'r parc sglefrio East Side newydd yn rhan o'n strategaeth hirdymor i gefnogi a thyfu'r gymuned sglefrfyrddio am flynyddoedd i ddod."
Wedi'i gynllunio i fod yn addas ar gyfer sglefrwyr o bob oedran a gallu, mae'r cyfleuster newydd wedi'i adeiladu o goncrid, gan ddarparu cyfleuster o safon uwch, sy'n cymryd llai o gynnal a chadw ac yn llai swnllyd na'r hen barc sglefrio ffrâm bren y mae'n ei ddisodli.
Mae strategaeth sglefrfyrddio y Cyngor yn nodi fframwaith ar gyfer ymgorffori mannau sglefrio mewn parciau a'r tir cyhoeddus ehangach yn ogystal â datblygu, yn amodol ar gyllid, tri pharc sglefrio newydd arall, sy'n gwasanaethu canol, gogledd a gorllewin Caerdydd.
Gallai De Caerdydd, sydd eisoes yn gartref i unig barc sglefrio concrit arall y ddinas ym Mae Caerdydd, hefyd elwa o barc sglefrio newydd ychydig yn llai.