The essential journalist news source
Back
6.
June
2025.
Y Diweddariad: 06 Mehefin 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cyfle caffi newydd ym Mharc Cefn Onn
  • Gwasanaeth Coffa Babanod 2025
  • Cynllun peilot nofio ysgol yn llwyddiant
  • Cynigion ar gyfer ffedereiddio ysgolion i gryfhau addysg yn Nwyrain Caerdydd

 

Cyfle caffi newydd ym Mharc Cefn Onn

Mae cyfle i ddatblygu caffi newydd i wasanaethu'r degau o filoedd o bobl sy'n ymweld â pharc hanesyddol rhestredig Gradd II bob blwyddyn wedi'i gyhoeddi.

Mae'r parc yng Ngogledd Caerdydd, sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, yn gartref i nentydd a llwybrau troellog, casgliad godidog o goed brodorol ac egsotig, yn ogystal ag ardaloedd o goetir lled-naturiol. Nawr, mae Cyngor Caerdydd yn hysbysebu'r cyfle i droi hen fyngalo'r ceidwad yn gaffi, fel y gall ymwelwyr hefyd fwynhau paned o de neu goffi yn y parc.

Mae'r byngalo dwy ystafell wely yn agos at brif fynedfa'r parc. Mae'r gofod yn cynnwys ardal awyr agored fach y gellid ei defnyddio i osod seddi.

Mae'r parc gwledig 66.6 hectar ar agor 7 diwrnod yr wythnos, yn elwa o fannau parcio ceir am ddim ac yn agos at orsaf drenau Llys-faen.

Darllenwch fwy yma

 

Gwasanaeth Coffa Babanod 2025

Bydd Gwasanaeth Coffa Babanod am 11.30am ddydd Sul 29 Mehefin yng Nghapel y Wenallt, Amlosgfa Draenen Pen-y-graig.

Cefnogir y gwasanaeth coffa gan y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (Sands) a bydd yn cael ei arwain gan aelodau o dîm Caplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae croeso i bawb fynychu, a bydd aelodau o gangen Caerdydd o Sands ar gael yn y gwasanaeth.

Bydd cerdyn coffa'n cael ei ysgrifennu yn ystod y gwasanaeth, ac wedyn bydd cyfle i deuluoedd osod carreg goffa yn y fowlen goffa yn yr Ardd Fytholwyrdd.

Darllenwch fwy yma

 

Cynllun peilot nofio ysgol yn llwyddiant wrth i nifer y plant sy'n nofio gynyddu

O fis Medi 2024, lansiodd Caerdydd Gynllun Peilot Nofio Ysgol Caerdydd, i fynd i'r afael â'r nifer isel o blant sy'n cymryd rhan mewn gwersi nofio ysgol.

Eisoes mae ffigurau ymgysylltu ag ysgolion i fyny i 74% o 57% a disgwylir y bydd mwy na 2,250 o blant wedi cael mynediad at wersi nofio mewn pyllau lleol drwy'r cynllun peilot, cyn diwedd y flwyddyn academaidd. 

Mae'r model cyflawni newydd wedi'i gynllunio i gynyddu nifer yr ysgolion sy'n cynnig darpariaeth nofio, gan sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn derbyn hyfforddiant nofio o ansawdd uchel yn seiliedig ar y cwricwlwm tra'n hyrwyddo diogelwch dŵr.

Wedi'i gyflwyno gan Dîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd y Cyngor, mewn partneriaeth â Nofio Cymru, Chwaraeon Met Caerdydd, GLL, Legacy Leisure, Urdd Gobaith Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, aeth y cynllun peilot i'r afael â heriau fel mynediad anghyson, cyfranogiad mewn ysgolion a chadw at Siarter Nofio Ysgolion clir. Trwy sefydlu cynllun cyflenwi lleol sy'n seiliedig ar glwstwr, mae 'AquaClusters' hefyd wedi helpu i liniaru rhwystrau logistaidd fel costau trafnidiaeth.

Darllenwch fwy yma

 

Cynigion ar gyfer ffedereiddio ysgolion i gryfhau addysg yn Nwyrain Caerdydd

Mae cynigion i ffedereiddio Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg gyda Ffederasiwn y Seintiau wedi cael eu datgelu, gyda'r nod o sicrhau arweinyddiaeth hirdymor, gwella canlyniadau addysgol, a chyflymu'r broses o wella ysgolion yn Nwyrain Caerdydd.

Mae Ffederasiwn y Seintiau, sy'n cynnwys Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Holl Seintiau ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, wedi dangos arweinyddiaeth gref a llwyddiant cydweithredol ers ei ffurfio ym mis Chwefror 2024. Byddai'r ffederasiwn arfaethedig yn ffurfioli'r bartneriaeth bresennol rhwng Ffederasiwn y Seintiau ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, sydd eisoes wedi profi effeithiau cadarnhaol trwy drefniadau arweinyddiaeth a rennir.

Ym mis Chwefror 2025, rhoddodd Estyn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg mewn Mesurau Arbennig, gan nodi'r angen am arweinyddiaeth sefydlog ac effeithiol. Mae'r ffederasiwn arfaethedig yn mynd i'r afael â'r argymhelliad hwn yn uniongyrchol trwy sicrhau'r strwythur arweinyddiaeth presennol a gwella gallu'r tîm arwain ar draws pob lefel.

Darllenwch fwy yma