The essential journalist news source
Back
4.
June
2025.
Gwasanaeth Coffa Babanod 2025

4.6.25

 

Bydd Gwasanaeth Coffa Babanod am 11.30am ddydd Sul 29 Mehefin yng Nghapel y Wenallt, Amlosgfa Draenen Pen-y-graig.

Cefnogir y gwasanaeth coffa gan y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion (Sands) a bydd yn cael ei arwain gan aelodau o dîm Caplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae croeso i bawb fynychu, a bydd aelodau o gangen Caerdydd o Sands ar gael yn y gwasanaeth.

A wooden patio with a group of sculpturesAI-generated content may be incorrect.

Yr Ardd Fytholwyrdd ym Mynwent Draenen Pen-y-graig.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Norma Mackie:  "Mae'r gwasanaeth hwn yn dod â'r rhai sydd wedi colli babi ynghyd gyda'u teulu a'u ffrindiau i fyfyrio a chofio, mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol."

Bydd cerdyn coffa'n cael ei ysgrifennu yn ystod y gwasanaeth, ac wedyn bydd cyfle i deuluoedd osod carreg goffa yn y fowlen goffa yn yr Ardd Fytholwyrdd.

Bydd lluniaeth ar gael ar ddiwedd y gwasanaeth.

Mae Capel y Wenallt i'w weld ym Mynwent Draenen Pen-y-graig, Heol Draenen Pen-y-graig, Rhiwbeina, Caerdydd.

Os ydych yn defnyddio llywiwr lloeren, defnyddiwch y cod post CF14 6RG.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth, cysylltwch ag aelod o staff y Gwasanaethau Profedigaeth ar 029 2054 4820.