The essential journalist news source
Back
4.
June
2025.
Cyfle caffi newydd ym Mharc Cefn Onn

4.6.25

Mae cyfle i ddatblygu caffi newydd i wasanaethu'r degau o filoedd o bobl sy'n ymweld â pharc hanesyddol rhestredig Gradd II bob blwyddyn wedi'i gyhoeddi.

Mae'r parc yng Ngogledd Caerdydd, sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, yn gartref i nentydd a llwybrau troellog, casgliad godidog o goed brodorol ac egsotig, yn ogystal ag ardaloedd o goetir lled-naturiol. Nawr, mae Cyngor Caerdydd yn hysbysebu'r cyfle i droi hen fyngalo'r ceidwad yn gaffi, fel y gall ymwelwyr hefyd fwynhau paned o de neu goffi yn y parc.

A gate with a sign over itAI-generated content may be incorrect.

Y fynedfa i Barc Cefn Onn. Llun:  Fletcher Morgan

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae Parc Cefn Onn yn ofod mor brydferth, ac mae llawer o waith wedi'i wneud dros y blynyddoedd i ddenu mwy o ymwelwyr gan gynnwys gwella mynediad, uwchraddio cyfleusterau toiledau, ac adfer ei nodweddion hanesyddol.

"Dod o hyd i weithredwr i sefydlu a rhedeg caffi parc yw'r cam nesaf i wella'r cyfleusterau ac annog hyd yn oed mwy o bobl i fentro i'r awyr agored a chrwydro mannau gwyrdd Caerdydd sydd ychydig yn llai adnabyddus."

Mae'r byngalo dwy ystafell wely yn agos at brif fynedfa'r parc. Mae'r gofod yn cynnwys ardal awyr agored fach y gellid ei defnyddio i osod seddi.

Mae'r parc gwledig 66.6 hectar ar agor 7 diwrnod yr wythnos, yn elwa o fannau parcio ceir am ddim ac yn agos at orsaf drenau Llys-faen.

Bydd manylion llawn y cyfle ar gael drwy'r dolenni canlynol tua dechrau mis Gorffennaf: https://cardiffcouncilproperty.com/cy/ ac yn https://fletchermorgan.co.uk/

O ganlyniad i'r cynnig, cyhoeddwyd hysbysiadau cyfreithiol yn hysbysebu 'gwaredu' 172.5 metr sgwâr o dir ym Mharc Cefn Onn.

Mae 'gwaredu' yn derm cyfreithiol sydd, yn yr achos hwn, yn cyfeirio at roi ar brydles. Bydd yr holl gyfleusterau yn parhau ym mherchnogaeth Cyngor Caerdydd.