The essential journalist news source
Back
27.
May
2025.
Ehangu’r rhwydwaith o offer achub bywyd yng nghanol y ddinas
27/5/25

Mae pedwar diffibriliwr mynediad cyhoeddus arall wedi'u gosod yng nghanol dinas Caerdydd.

Mae gosod yr offer achub bywyd newydd yn golygu bod yna gyfanswm o naw diffibriliwr mewn lleoliadau allweddol yng nghanol y ddinas erbyn hyn.

Mae'r gosodiadau diweddaraf yn ganlyniad i waith ar y cyd rhwng Tîm Rheoli Canol y Ddinas Cyngor Caerdydd, Achub Bywyd Cymru – y rhaglen genedlaethol i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth o CPR a diffibrilio – a Wates, y contractwr datblygu cenedlaethol sy'n cydweithio â'r Cyngor i ddarparu cartrefi cyngor newydd ledled y ddinas.

Bellach bydd gan drigolion, ymwelwyr a gweithwyr yng nghanol y ddinas fynediad cyflymach at offer hanfodol sy’n achub bywydau, sydd wedi cael eu gosod yn strategol mewn ardaloedd â nifer uchel o ymwelwyr.Mae pob uned wedi'i chofrestru â The Circuit – y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol – gan sicrhau y gall gwasanaethau brys gyfeirio galwyr 999 at y ddyfais agosaf ar unwaith.

Mae diffibrilwyr newydd bellach ar gael yn nhafarn y Duke of Wellington yn yr Aes, Hayes Island Snack Bar, Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro, Stryd Working, a Renegade Gym ar Heol Penarth. Mae dyfeisiau hefyd ar gael yn nhafarn y Bluebell ar y Stryd Fawr, Tŷ Elgin, Tesco, tafarn y Cambrian Tap a Walkabout ar Heol Eglwys Fair – pob un ohonynt wedi'u gosod yn ystod cam cyntaf y fenter.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:   “Mae'r Cyngor yn falch o fod yn rhan o'r prosiect hwn sy'n rhoi diogelwch a lles y gymuned wrth ei galon. Mae pob munud yn cyfrif pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon, felly bydd yr offer yma’n galluogi'r gymuned a busnesau i reoli sefyllfaoedd sy'n peryglu bywyd, pe bai’r angen yn codi, cyn i gymorth meddygol gyrraedd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Wates am eu cefnogaeth trwy eu hymrwymiad buddion lles cymunedol, ac i AJ Electrical am osod y diffibrilwyr.”

Dywedodd Sian Davis, Arweinydd Tîm Cydlynu Cymunedol Achub Bywyd Cymru, De Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi cefnogi'r gwaith o osod naw diffibriliwr a chabinet mynediad cyhoeddus mewn lleoliadau allweddol yng nghanol dinas Caerdydd. Rydyn ni wedi sicrhau bod pob un o’r diffibrilwyr hyn wedi'u cofrestru ar The Circuit fel bod eu lleoliadau ar gael i Wasanaeth Ambiwlans Cymru er mwyn caniatáu i'r rhai sy'n ateb galwadau 999 gyfeirio galwyr yn uniongyrchol at ddiffibriliwr cofrestredig a helpu i achub rhagor o fywydau.

“Mae hwn wedi bod yn gydweithrediad ardderchog rhwng Cyngor Caerdydd, Grŵp Wates ac Achub Bywyd Cymru i wella'r ddarpariaeth o ddyfeisiau achub bywyd hygyrch 24/7 i bawb sy'n byw yng nghanol y ddinas neu'n ymweld â chanol y ddinas. Gwyddom, am bob munud y mae yna ataliad ar galon rhywun heb iddynt dderbyn CPR a heb i ddiffibriliwr gael ei ddefnyddio arnynt, mae eu siawns o oroesi yn gostwng 10%.” 

Dywedodd Edward Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Wates Residential: “Rydyn ni’n falch o gefnogi'r fenter hon am yr ail flwyddyn. Gan weithio gyda Chyngor Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n partner cadwyn gyflenwi, AJ Electrical, rydyn ni wedi helpu i sicrhau bod offer sy’n achub bywydau yn fwy hygyrch ledled y ddinas. Mae'r math yma o gefnogaeth ymarferol sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn adlewyrchu pwy ydyn ni yn Wates, a'r effaith barhaol rydyn ni’n bwriadu ei chael lle mae ei hangen fwyaf.”