The essential journalist news source
Back
23.
May
2025.
150 mlynedd ers agor Ysgol Gynradd Adamsdown

 

23/5/2025

 

Mae un o ysgolion cynradd annwyl hynaf Caerdydd, Ysgol Gynradd Adamsdown, wedi dathlu carreg filltir ryfeddol y mis hwn - 150 mlynedd o addysg, cymuned a hanes. Agorodd ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf ym 1875, ac mae'r ysgol yn parhau i ffynnu yng nghanol cymuned Adamsdown.

I nodi'r pen-blwydd arwyddocaol hwn, cynhaliwyd dathliad arbennig, gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous i anrhydeddu gorffennol, presennol a dyfodol yr ysgol.

Roedd dadorchuddio murlun newydd wrth wraidd y dathliad, murlun a ddyluniwyd gan ddisgyblion ac a ddaeth yn fyw gan Wall-Op, cydweithfa o artistiaid murluniau o Gaerdydd sy'n adnabyddus am eu gwaith mewn cydweithrediad cymunedol. Mae'r murlun yn adlewyrchu bywiogrwydd, amrywiaeth a threftadaeth Adamsdown, ac yn sefyll fel teyrnged barhaol i etifeddiaeth 150 mlynedd yr ysgol.  

Dadorchuddiwyd y murlun yn swyddogol gan gyn bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Joe Ledley, brodor balch o Gaerdydd, ac roedd y gwesteion eraill a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn cynnwys cyn-aelodau o staff a chynrychiolwyr o lawer o'r sefydliadau crefyddol lleol yn yr ardal. 

Yn ystod yr wythnos cyn y digwyddiad, aeth y disgyblion i ymchwilio i hanes oes Fictoria Caerdydd, gan archwilio sut beth oedd bywyd pan agorodd yr ysgol am y tro cyntaf, ac ar ddiwrnod y dathliad, gwnaethant groesawu gwesteion mewn ystafell de ar thema Fictoraidd, gan gynnig cipolwg dymunol ar y gorffennol.

Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys Ffair Gymunedol, gan arddangos partneriaethau gwerthfawr yr ysgol gyda sefydliadau lleol a gwnaeth ymwelwyr fwynhau gweithgareddau a pherfformiadau gan Rubicon Dance, Upbeat Music, NoFit State Circus, côr Oasis One World,Seren yn y Gymuned,Gerddi'r Rheilffordd, Partneriaeth Dulliau Adferol Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd aMorgan Sindall, y contractwyr a ddewiswyd i adeiladu'r Ysgol Uwchradd Willows newydd.

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Emma Thomas: "Mae Ysgol Gynradd Adamsdown wedi mwynhau dathlu'r garreg filltir arwyddocaol hon fel ysgol gyfan. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gysylltiadau cymunedol am eu cymorth a'u cefnogaeth i wneud yr wythnos hon yn amser mor arbennig i'n disgyblion. Rydym yn gobeithio y bydd yr ysgol a'r gymuned yn mwynhau'r murlun ysgol newydd am flynyddoedd i ddod!"

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Ysgol Gynradd Adamsdown yn un o ysgolion hynaf y ddinas ac mae ei phen-blwydd yn 150 oed yn garreg filltir unigryw yn stori addysgol Caerdydd.

"Mae'r dathliadau wedi rhoi cyfle i gydnabod y cenedlaethau o ddisgyblion, staff, teuluoedd a'r gymuned leol sydd wedi helpu i lunio'r ysgol fel y mae heddiw, a bydd y murlun newydd yn ein hatgoffa o hyn ymhell i'r dyfodol - Llongyfarchiadau."