Mae'r Cynghorydd Adrian Robson wedi'i urddo'n Arglwydd Faer newydd Caerdydd.
Cyflwynwyd y gadwyn swyddogol i'r Cynghorydd Robson mewn seremoni yn Neuadd y Sir heddiw, dydd Iau, 22 Mai, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Caerdydd, ac mae'n dod yn 121ain Arglwydd Faer Dinas a Sir Caerdydd.
Ag yntau'n un o gynghorwyr Caerdydd sydd wedi gwasanaethu hiraf, gyda gwasanaeth parhaus ers 2004, mae'r Cynghorydd Robson wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus mewn gwleidyddiaeth ac mae wedi bod yn ymroddedig wrth gynrychioli ward Rhiwbeina ers dros ddau ddegawd. Yn ddilynwr brwd o rasioFormula Oneac yn siaradwr cyhoeddus profiadol, mae wedi bod yn aelod o lawer o bwyllgorau gan gynnwys y Pwyllgor Cynllunio ac mae'n gyn-Gadeirydd y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad. Mae hefyd wedi eistedd ar Banel Penodi Llywodraethwyr Ysgolion.
Bydd ei wraig, y Cynghorydd Jayne Cowan, yn gwasanaethu fel ei gymar yn y swydd yn ystod ei dymor, ac fel cynghorydd presennol Caerdydd sydd wedi gwasanaethu hiraf, gyda gwasanaeth parhaus ers 1999, bydd yn rhannu ymrwymiad yr Arglwydd Faer i'w cymuned leol a phobl Caerdydd.
Gyda chefndir mewn cysylltiadau cyhoeddus, mae'r Cynghorydd Cowan yn aelod o'r Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio, Pensiynau, Cydbwyllgor Archifau Morgannwg ac ar y Panel Rhianta Corfforaethol ac mae wedi bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Arbennig Greenhill ers 27 mlynedd.
Mae'r cwpl, a gyfarfu gyntaf yn 2001 ac a briododd yn Siambr Cyngor Caerdydd yn 2003, yw'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres gyntaf ers dros 40 mlynedd lle mae'r ddau yn gwasanaethu fel cynghorwyr.
Mae'r Arglwydd Faer wedi enwebu dwy elusen i'w cefnogi yn ystod ei dymor. Mae'r Corws Forget-Me-Not, a sefydlwyd yn Rhiwbeina i ddechrau, yn dod â'r llawenydd o ganu i bobl sy'n byw gyda dementia, a'r rheini sy'n eu cefnogi drwy drefnu sesiynau canu i bobl â phob math o ddementia, yn ogystal â'r teuluoedd, ffrindiau a staff proffesiynol sy'n gofalu amdanynt.
Mae'r Gwesty Achub yn elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n ymroddedig wrth gefnogi'r cŵn yng Nghartref Cŵn Caerdydd, ac mae'n helpu i wella bywydau cŵn achub drwy ddarparu gofal hanfodol, ariannu adnoddau hanfodol, a sicrhau bod ganddynt y cyfle gorau posib o ddod o hyd i gartrefi cariadus am byth.
Mae'r Arglwydd Faer a'r Arglwydd Faeres, yr effeithiwyd arnynt yn yr un modd gan ddementia ymysg aelodau'r teulu, ac sydd hefyd yn dwlu ar gŵn, wedi amlinellu rhai o'u cynlluniau dros y flwyddyn i ddod, ac am weld yr ymdrechion codi arian yn cael eu rhannu rhwng y ddau achos. Maent yn cynnwys llu o ddigwyddiadau fel teithiau cerdded elusennol noddedig, rafflau, barbeciwiau, cwisiau, cyngerdd cerddorol, boreau coffi, digwyddiadau te prynhawn a dawns gala.
Wrth siarad yn ei seremoni urddo, dywedodd yr Arglwydd Faer newydd: "Mae'n anrhydedd aruthrol cael fy mhenodi'n Arglwydd Faer newydd ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â llawer o drigolion Caerdydd mewn nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
"Gyda chymorth a chefnogaeth yr Arglwydd Faeres, rwy'n gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth i'r elusennau gwych hyn sy'n agos at ein calonnau, trwy eu harddangos a rhoi'r gydnabyddiaeth iddynt y maent yn ei haeddu.
"Mae'r wythnos hon yn nodi Wythnos Gweithredu ar Ddementia, gan ei gwneud hi'n amser addas i gyhoeddi'r Corws Forget-Me-Not fel un o fy elusennau dewisol ar gyfer y flwyddyn.Mae dementia yn cyffwrdd â bywydau cynifer yn ein cymunedau ac rydym yn falch o gefnogi sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth ystyrlon wrth adeiladu Caerdydd sy'n fwy ystyriol o bobl â Dementia."
Mae'r Cynghorydd Michael Michael, sy'n gynghorydd o Gaerdydd ers 1997, wedi cael ei ailbenodi'n Ddirprwy Arglwydd Faer. Cynrychiolodd y Tyllgoed i ddechrau ac, ers 2012, mae wedi gwasanaethu ward Trowbridge a Llaneirwg. Mae'r Cynghorydd Michael wedi gweithio'n helaeth gyda grwpiau lleol i wella Trowbridge a Llaneirwg ac wedi bod yn rhan o brosiectau cymunedol ledled y ddinas. Yn wreiddiol o Gyprus, symudodd Michael i Gaerdydd ym mis Mawrth 1961 a dyma'r unigolyn Cypraidd Groegaidd cyntaf i ddal swydd Dirprwy Faer.
Meddai:"Rwy'n falch iawn o gael fy ailbenodi yn Ddirprwy Arglwydd Faer Caerdydd. Rwy'n edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod ac at ymweld â'r cymunedau gwych sy'n gwneud ein dinas yn lle mor wych i fyw ynddi."
Bydd gwraig y Cynghorydd Michael, Joyce, yn gweithredu fel ei gymar yn y swydd ar gyfer y flwyddyn ddinesig, sy'n dod i ben ym mis Mai 2026.
Dywedodd Katherine Harri, Cyfarwyddwr Datblygu a Chyfathrebu Corws Forget-Me-Not: "Rydym wrth ein bodd i fod yn un o elusennau enwebedig yr Arglwydd Faer ar gyfer 2025/26. Fel sefydliad sydd wedi'i wreiddio'n falch yng Nghaerdydd, mae'n anrhydedd arbennig i ni gael y gydnabyddiaeth hon. Bydd haelioni a chred yr Arglwydd Faer yn ein gwaith yn ein helpu i barhau i ddod â chysylltiadau, cyfeillgarwch a llawenydd trwy ganu i bobl sy'n byw gyda dementia, a'r rheini sy'n eu caru ac yn gofalu amdanynt. Diolch!"
Dywedodd Toria Acreman, Cyd-sylfaenydd y Gwesty Achub: "Mae'n anrhydedd mawr i ni fod Arglwydd Faer newydd Caerdydd, y Cynghorydd Adrian Robson, wedi dewis y Gwesty Achub fel un o'i elusennau a gefnogir am y flwyddyn.
"Fel sefydliad bach, ar lawr gwlad sy'n ymroddedig i roi ail gyfle i gŵn achub sy'n agored i niwed, mae'r gydnabyddiaeth hon yn bopeth i ni a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n hachos. Rydym wedi ein cyffroi am y cyfleoedd y bydd y bartneriaeth hon yn eu cynnig i helpu i godi ymwybyddiaeth o'n cenhadaeth, a chodi arian hanfodol a fydd yn ein helpu i barhau i gefnogi cŵn digartref Caerdydd. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y gefnogaeth hon ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod."