22/05/25
Cwblhaodd Arglwydd Faer ymadawol Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, ei rôl olaf fel Maer yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor heddiw (Dydd Iau, 22 Mai) pan drosglwyddodd y gadwyn i Arglwydd Faer newydd y ddinas, y Cynghorydd Adrian Robson.
Arglwydd Faer ymadawol Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones
Camodd Helen i rôl yr Arglwydd Faer o dan amgylchiadau eithriadol, yn dilyn marwolaeth gynamserol ei rhagflaenydd, y Cynghorydd Jane Henshaw, a fu farw yn drist iawn yn y swydd.
"Roedd Jane yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr," meddai Helen. "Felly doedd camu i mewn i'w hesgidiau ddim yn hawdd. Ond roeddwn i'n gwybod y byddai hi am i Gaerdydd gael ei chynrychioli'n iawn ac i ni barhau i godi arian ar gyfer elusen ddewisol Jane, Banc Bwyd Caerdydd."
Mae Banc Bwyd Caerdydd yn rhedeg wyth canolfan wahanol ledled Caerdydd. Mae eu warws yn y Sblot, sef ward y Cynghorydd Henshaw. "Mae penderfyniad y gwirfoddolwyr i wneud yn siŵr bod pobl yn cael bwyd yn anhygoel," meddai Helen.
Gan ystyried y Sblot fel un enghraifft yn unig o gymuned fywiog Caerdydd, ychwanegodd Helen ei bod wedi bod yn bleser cwrdd â Gwirfoddolwyr Cymunedol y Sblot, a sefydlwyd gan Fred ac Angela Bullard a Trisha Mardon, sy'n sicrhau bod pobl yn gallu cael brecwast da o leiaf unwaith yr wythnos; Teml y Sanatan Dharma Mandal sy'n rhedeg canolfannau dydd sy'n cynnig cinio i'w cymuned, a'r Tad Sebastian yn Nhŷ Gweddi Caerdydd sy'n trefnu parseli bwyd dros y Nadolig i deuluoedd sy'n cael trafferth.
Ers dod yn Arglwydd Faer, mae bron i £14,000 wedi'i godi ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd. Cyfaddefodd Helen, gan wenu, fod nawdd a gododd am wneud Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o hynny.
"Rydych chi bob amser yn cael eich holi a oes gennych chi stori yr hoffech i'r wasg ei defnyddio," meddai. "Ond pan rydych chi'n rhedeg, neu'n jeffio (rhedeg a cherdded) yn eich saithdegau, rydych chi bob amser braidd yn bryderus efallai na fyddwch chi'n cwblhau'r ras. Felly, wnes i ddim cyfaddef i'r stori benodol honno!"
Am resymau ymarferol, nid yw Helen wedi cynnal unrhyw ddigwyddiad yn swyddogol fel Arglwydd Faer, ond ochr yn ochr â Hanner Caerdydd cwblhaodd 8 Llyswyry ym mis Ionawr ac mae'n cefnogi Parkrun, fel arfer yng Nghaerdydd wrth ymyl y Taf. "Gall unrhyw un, waeth pa mor hen, ymuno â Parkrun ac mae yna bob amser Barti yn y Cefn gyda phobl yn cerdded. Mae'n llawer o hwyl ac yn ffordd wych o wella eich ffitrwydd ar unrhyw oedran," ychwanegodd.
Mae Helen yn Beiriannydd Siartredig. Dywedodd wrthym: "Roedd cyn lleied o beirianwyr benywaidd pan gefais fy nhystysgrif i, roedd hi'n dweud 'Annwyl Syr'. Rwy'n falch o ddweud bod pethau wedi gwella! Fel peiriannydd, fe wnes i fwynhau agor y ffatri bleindiau uwch-dechnoleg newydd yn Swanmac yng Ngwaelod-y-Garth. Roedd yn ddiddorol dysgu am eu gwaith ac i weld y dechnoleg fodern maen nhw'n ei defnyddio."
Ar forglawdd Caerdydd, lansiodd Radio Ynys Echni, cerflun a ddyluniwyd gan Glenn Davidson wedi'i wneud yn gyfan gwbl o drawstiau rheilffordd Jarrah wedi'u hailgylchu. "Roeddwn i yn y garfan gyntaf o fyfyrwyr ym Mhrydain i gael dysgu iaith gyfrifiadurol yn y brifysgol, ac rydw i wedi bod yn dyst i newidiadau anhygoel mewn cyfathrebu. Mae'n gyffrous iawn bod Ynys Echni Caerdydd wedi'i dewis ar gyfer arbrofion cynnar wrth ddatblygu technoleg ddiwifr."
Gan fyfyrio ymhellach ar ei blwyddyn yn y swydd, dywedodd: "Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl yng Nghaerdydd sy'n gweithio'n ddiflino i wneud ein byd yn lle gwell. Yn seremoni'r Wobr Anabledd, roedd yn brofiad gostyngedig gweld pobl ifanc yn rhoi o'u hamser i helpu eraill. Roedd cwrdd â Geidiau Creigiau - sydd wedi sefydlu criw yng Nghraig-y-Parc fel y gallai'r plant ag anghenion dysgu arbennig hefyd ymuno - yn ysbrydoledig. Roedd dysgu am y gwaith y mae enillydd Gwobr Nyrs y Flwyddyn, Madelaine Watkins, yn ei wneud gyda phobl hŷn sy'n profi seicosis hefyd yn fraint.
"Ar ochr ysgafnach, fe wnes i fwynhau cwrdd â'r Gwningen Pasg yng Ngerddi Llwynfedw, a oedd yn llawer o hwyl. Ac roedd gwylio plant pump oed o ysgol y Forwyn Fair yn addurno'r Goeden Nadolig yn y Gyfnewidfa Fysiau newydd wir yn hudolus. Gwnaeth eu cyffro pan gyrhaeddodd Siôn Corn roi hwb i ni i gyd!"
Ymhlith yr eiliadau cofiadwy niferus, tynnodd yr Arglwydd Faer sylw at gynhyrchiad Matilda Ysgol Gynradd Howardian; Allgymorth Cerddorol Eglwys Gadeiriol Llandaf lle canodd Ysgolion Cynradd Radur a Brynderi yn ward Helen gyda phlant o Benrhys; y Gwasanaeth Dinesig yn coffáu VE80 yn Radur a Phentre-poeth; ac anrhydeddu goroeswr yr Holocost, Eva Clarke gyda Gwobr Heddwch.
"Roedd mor emosiynol gweld cymaint o bobl, gan gynnwys pobl ifanc o'r gymuned, wrth y Gofeb Ryfel i goffáu VE80. Roedd hefyd yn arbennig iawn clywed Eva Clarke yn siarad yn nigwyddiad Coffa'r Holocost. Dwy foment hynod," meddai Helen.
Ymhlith y digwyddiadau amlwg eraill roedd y Gwasanaeth Coffa i'r Diweddar Arglwydd Faer Jane Henshaw; Saliwtiau Gynnau Brenhinol; cyfarch y Dywysoges Frenhinol; Gwasanaeth y Cofio; gwasanaeth Nadolig rhyng-ffydd; a digwyddiadau codi baneri a chodi arian amrywiol. Roedd yr Arglwydd Faer hefyd yn falch o gwrdd â Llysgenhadon, a chroesawu myfyrwyr o Norwy a Japan, yn ogystal â mynychu nifer o ddigwyddiadau cymunedol ac eglwysig.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'r Dirprwy Arglwydd Faer, y Cynghorydd Michael Michael a'i wraig, sydd wedi bod yn gefnogaeth fawr i mi," meddai Helen, gan ychwanegu, "Diolch, Gaerdydd, am eich caredigrwydd a'ch cariad at eraill. Hoffwn roi'r holl bositifrwydd, cariad, brwdfrydedd, caredigrwydd, a chynhesrwydd rydw i wedi'i brofi mewn potel a rhoi dracht i bawb. Ein tri gair Cymraeg arbennig, Croeso; Cwtsh; a Chariad. Rwy'n annog pawb i ddal eu gafael ynddynt."
Gorffennodd Helen trwy ddymuno blwyddyn dda a chofiadwy i'w holynydd, y Cynghorydd Adrian Robson.
Bydd y Cynghorydd Robson yn cael ei gefnogi gan ei wraig a'i gydwedd, y Cynghorydd Jayne Cowan. Y cwpl, a gyfarfu gyntaf yn 2001 ac a briododd yn Siambr Cyngor Caerdydd yn 2003, yw'r Arglwydd Faer ac Arglwydd Faeres gyntaf ers dros 40 mlynedd lle mae'r ddau ohonynt yn gwasanaethu fel cynghorwyr.
Mae'r Cynghorydd Robson wedi dewis dwy elusen i godi arian ar eu cyfer yn ystod ei flwyddyn yn y swydd. Mae'r Corws Forget-Me-Not, a sefydlwyd yn Rhiwbeina i ddechrau, yn dod â'r llawenydd o ganu i bobl sy'n byw gyda dementia, a'r rheini sy'n eu cefnogi drwy drefnu sesiynau canu i bobl â phob math o ddementia, yn ogystal â'r teuluoedd, ffrindiau a staff proffesiynol sy'n gofalu amdanynt. Mae'r Gwesty Achub yn elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n ymroddedig i gefnogi'r cŵn yng Nghartref Cŵn Caerdydd, ac yn helpu i wella bywydau cŵn achub drwy ddarparu gofal hanfodol, ariannu adnoddau hanfodol, a sicrhau bod ganddynt y cyfle gorau posib o ddod o hyd i gartrefi cariadus am byth.
Mae'r Cynghorydd Michael Michael, sy'n gynghorydd ar Gaerdydd ers 1997, wedi cael ei ailbenodi'n Ddirprwy Arglwydd Faer. Bydd gwraig y Cynghorydd Michael, Joyce, yn gweithredu fel ei gydwedd.