Mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu'r cyhoeddiad bod prifddinas Cymru wedi'i dewis fel un o'r 12 hyb rhanbarthol newydd ar gyfer adleoli'r Gwasanaeth Sifil y tu allan i Lundain.
Rhagwelir y bydd hyn yn dod â gwerth £729 miliwn o fudd economaidd i’r 13 ardal twf erbyn 2030.
Bydd
y fenter hon yn arwain at 12,000 o swyddi, gan gynnwys 50% o rolau uwch a
Swyddogion Llwybr Carlam (cynllun llwybr carlam i raddedigion Llywodraeth y DU)
yn symud allan o Lundain, gan gynnig llwybrau gyrfa hyfyw i bobl sy'n gadael yr
ysgol hyd at ysgrifenyddion parhaol mewn dinasoedd ledled y DU.
Bydd yr adleoli hefyd yn cynnwys cyfleoedd am
secondiad rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, gan gyfrannu at
wasanaeth cyhoeddus mwy integredig.
Mae sefydlu hyb newydd yng Nghaerdydd yn rhan o
strategaeth i adael 11 adeilad yn Llundain, gan arbed £94 miliwn ac o bosibl yn
cynnwys 12,000 o rolau i gyd.
Caerdydd
yw'r unig hyb yng Nghymru, gan ymuno â dinasoedd eraill fel Belfast, Aberdeen,
Glasgow, Caeredin, Bryste, Sheffield, Leeds, Birmingham, Newcastle, Manceinion
Fwyaf, Darlington a Chaerefrog.
Ar hyn o bryd, mae 9,230 o rolau’r gwasanaeth sifil
wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Mae dros 31,500 o rolau cyfwerth ag amser llawn
wedi eu lleoli yng Nghymru, gyda 14 o brif adrannau’r Llywodraeth â
phresenoldeb yn y wlad. Bydd miloedd yn fwy o swyddi’r llywodraeth nawr yn cael
eu symud i’r 13 o ddinasoedd a threfi ledled y DU.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd
Huw Thomas: "Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i Gaerdydd ac yn
dystiolaeth o’n hymdrechion hirdymor i baratoi'r ffordd ar gyfer cyfleoedd o'r
fath. Bydd hyb newydd y Gwasanaeth Sifil nid yn unig yn dod â swyddi o ansawdd
uchel i'n dinas, ond bydd hefyd yn cryfhau ein safle allweddol yn nhirwedd
sector cyhoeddus y DU. Gallai hyn roi momentwm gwirioneddol i Gampws Swyddfa
Glanfa’r Iwerydd, Sgwâr Canolog a’r Cei Canolog fel lleoliadau swyddfa o'r radd
flaenaf sy'n denu buddsoddiad pellach."
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a
Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Rwy'n falch iawn o groesawu hyb y
Gwasanaeth Sifil i Gaerdydd. Mae'r cam hwn yn cyd-fynd yn berffaith â'n
strategaeth datblygu economaidd, sydd wedi canolbwyntio ar greu marchnad swyddi
fywiog a meithrin cysylltiadau cryf rhwng llywodraeth leol a chanolog. Mae'r
llwybrau gyrfa a amlygwyd yn adlewyrchu ein cynigion a gyflwynwyd yng
nghynhadledd y gwasanaeth sifil yn ddiweddar, y gwnaethon ni eu galw’n
llwybrau. Bydd yr hyb yn darparu cyfleoedd gyrfa ardderchog i'n preswylwyr ac
yn cyfrannu at dwf a ffyniant cyffredinol Caerdydd. Mae hefyd yn cyfiawnhau'r
ffocws yr ydym wedi'i roi ar raglen y Gwasanaeth Sifil "Mwy a
Gwahanol" yn ystod y blynyddoedd diwethaf, lle rydym wedi gallu tynnu sylw
at y sgiliau newydd sydd eu hangen ar y gwasanaeth sifil e.e. gellir cyflawni
Seiber, Technoleg Ariannol, Deallusrwydd Artiffisial yng Nghaerdydd, a chreu
llwybrau i gael mynediad at sgiliau a’u datblygu."
Mae
Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio'n weithredol i ddenu swyddi'r llywodraeth
i'r ddinas, gan gynnwys adleoli canolfan ranbarthol CThEF yn llwyddiannus yng
Nghaerdydd, yn y Sgwâr Canolog. Symudodd tua 4,000 o weithwyr o amrywiol
swyddfeydd llai i un cyfleuster o'r radd flaenaf, gan wella effeithlonrwydd a
darparu gwasanaethau gwell i'r cyhoedd.
Mae'r rhaglen Mwy a Gwahanol wedi bod yn rhan
allweddol o strategaeth Cyngor Caerdydd i arallgyfeirio a moderneiddio'r
economi.
Mae
tîm datblygu economaidd Cyngor Caerdydd hefyd wedi bod yn allweddol mewn sawl
llwyddiant arall, gan gynnwys:
- Prosiect Metro
Canolog: Sicrhau cyllid mewn egwyddor trwy gyllid Bargen Ddinesig, gyda'r
potensial i gefnogi hyd at 30,000 o swyddi ychwanegol
- Llynnoedd
Hendre/Parcffordd Caerdydd: Cyfraniad sylweddol at adfywio dwyrain
Caerdydd drwy ddod â chysylltedd, swyddi a buddsoddiad i'r rhanbarth
- Adfywio Glanfa'r
Iwerydd: Cyflymu adfywio Bae Caerdydd, adeiladu Arena newydd a dod â mwy o
swyddi ac ymwelwyr i'r ddinas.