Mae perchennog a chyfarwyddwr Best One Vape ar Stryd Clifton yng Nghaerdydd wedi cael gorchymyn i dalu dros £10,000 am nifer o droseddau iechyd a diogelwch yn ogystal â gwerthu tybaco ffug a fêps anghyfreithlon.
Ymddangosodd
Sirwan Nuri Kadri, 37, o Stryd Clifton Caerdydd
yn Llys Ynadon Casnewydd ar 29 Ebrill i gael ei ddedfrydu am bum trosedd tybaco
ac e-sigaréts anghyfreithlon a dwy drosedd iechyd a diogelwch yn ymwneud â
gwifrau trydanol byw a ddarganfuwyd yn ymwthio allan o waliau yng nghefn ei
fusnes.
Cyn y gwrandawiad ddydd Mawrth diwethaf (29 Ebrill), plediodd perchennog a
chyfarwyddwr y busnes, Mr Kadri, yn euog i droseddau tybaco ac e-sigaréts
anghyfreithlon mewn gwrandawiad blaenorol ar 23 Ionawr 2025. Mae'r troseddau
iechyd a diogelwch a ddaeth ger bron y llys Ddydd Mawrth diwethaf yn ymwneud ag
oergell ansefydlog yn y busnes, gydag adroddiadau am nifer o wifrau trydanol
byw ac agored yng nghefn yr eiddo yn achosi bygythiad uniongyrchol i fywyd.
Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwella gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir cyn
gynted ag y darganfuwyd y gwifrau trydanol byw a gwnaethpwyd yn glir bod yn
rhaid i'r materion gael eu datrys gan berson cymwys, tra'n ei gwneud yn glir y
gellid cyflwyno Hysbysiad Gwahardd ar yr eiddo pe na chai’r gwaith ei wneud.
Cynhaliwyd sawl ymweliad dilynol gan swyddogion y cyngor ac er nad oedd y
gwifrau trydanol yn weladwy mwyach, methodd y busnes â darparu unrhyw
ddogfennaeth i brofi bod y gwaith wedi'i wneud gan berson cymwys.
Dwedodd y
Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau
Rheoliadol a Rennir: "Nid dyma'r
tro cyntaf i ni gael problemau gyda'r busnes hwn. Mae'r siop prin wedi ailagor ers i ni ei chau
am dri mis fis Tachwedd diwethaf oherwydd gorchymyn cau ymddygiad
gwrthgymdeithasol ar gyfer gwerthu tybaco a fêps.
"Mae'n
ymddangos bod y perygl maen nhw'n ei achosi i'w cwsmeriaid yn mynd y tu hwnt
i'r cynhyrchion maen nhw'n eu gwerthu. Darganfuwyd gwifrau trydanol byw yn dod
allan o’u waliau, gan beri perygl uniongyrchol i fywyd pe byddent yn cael eu
cyffwrdd.
"Mae
deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn bodoli am reswm. Mae angen i fusnesau gydymffurfio â'r
gyfraith i sicrhau diogelwch eu staff a'u cwsmeriaid. Bydd unrhyw dramgwydd fel hyn yn wynebu grym
llawn y gyfraith i gadw pobl yn ddiogel."
Cafodd y cwmni Best One Vape Ltd gyfanswm dirwy o £4000 am y troseddau
iechyd a diogelwch, a £5000 arall ar gyfer y tybaco a'r fêps anghyfreithlon,
gyda gordal dioddefwr o £2000, a chostau o £570 ar gyfer y Troseddau Iechyd a
Diogelwch a £1048 ar gyfer y troseddau Tybaco ac e-sigaréts.
Cafodd Mr Kadri
ddirwy o £1,400 am y troseddau tybaco a'r fêps anghyfreithlon, a gorchmynnwyd
iddo dalu £1048 at
gostau’r erlyniad a Gordal Dioddefwr o £560.
Rhoddwyd gorchymyn fforffedu ar gyfer
yr holl dybaco a'r fêps anghyfreithlon fel y gellir eu dinistrio.