Bydd y Bristol Bears yn wynebu Caerfaddon ddydd Sadwrn yma ar gyfer y Diwrnod Mawr Allan yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 3.05pm - bydd holl ffyrdd canol y
ddinas ar gau o 11am tan 7pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu
cyrraedd a gadael y stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4
fod yn brysur iawn oherwydd y gêm rygbi, felly cynlluniwch ymlaen llaw i
osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd trwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a
theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon
- CF11 0JS.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf
am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu
@TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Bydd y gatiau'n agor am 1pm, cynghorir y rhai sy'n
mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau
gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau
mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd
Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a
diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff
y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am
11am tan 7pm
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd
i’r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â
Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r
gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd
Arglawdd Fitzhammon).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r
cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad
i breswylwyr a masnachwyr).
- Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan
gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell,
Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog,
Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd
Havelock a Heol Scott.
- Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf
a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd
Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Y rheswm dros hyn yw i sicrhau mynediad
dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
·
Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r gêm
orffen ac am hyd at awr wedi'r chwiban olaf am resymau diogelwch i deithwyr
trên sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir
mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i
barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a
mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae’r
ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r
Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg
gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y gêm hon ac mae wedi cynyddu ei ddarpariaeth
trafnidiaeth ffyrdd wrth gefn. Gan weithio ar y cyd â GWR, mae Trafnidiaeth
Cymru wedi datblygu system giwio sy'n cefnogi'r cynnydd yn amlder y gwasanaeth
ac yn annog pob teithiwr i ymgyfarwyddo â'r system newydd cyn y diwrnod. Bydd
staff ar gael yn Caerdydd Canolog i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf a bydd
gwiriadau refeniw yn cael eu cynnal cyn ac ar ôl y digwyddiad. Am fwy o
wybodaeth, ewch i: Stadiwm
Principality, Caerdydd | Trafnidiaeth Cymru
Mae Great Western Railway yn
cynghori eu cwsmeriaid bod gwasanaethau ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer
y digwyddiad hwn, ond yn eu rhybuddio bod angen cadw sedd ymlaen llaw ac nad
oes trenau uniongyrchol o Bristol Parkway. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd cyfleusterau parcio a theithio’r digwyddiad yn
defnyddio’r maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref
Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.
Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas ar Ffordd
Tresilian.
Bydd y safle Parcio a
Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws
olaf o ganol y ddinas am 7pm gyda'r
safle yn cau am 7.30pm.
Y gost yw £15. Arian parod yn unig.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a
Choetsys)
Cyrraedd
yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4,
ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan
ddinesig.
Cost:
£20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar
gael nawr.
Amserau
parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi
Sophia (ceir)
(Taith
gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio
ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd
yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost:
£20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amserau
parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd
Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo
personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus
lleol:
Caiff
gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch
i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws
penodol.
Ar
gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar
gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am
ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National
Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd
y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar
agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y
disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a
thalu sylw.
Mae'r
trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i
feiciau â phedalau.
Gall
y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn
llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y
gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom
hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd
roi cynnig arni.
Pan
fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth
oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu
ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae
meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa
Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries
a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir
bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia.
Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio
preifat amrywiol.
Gweler
argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd
safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser gynt) yn cau am
11am ac yn ailagor am 7pm.