Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd fabwysiadu Strategaeth Perygl Llifogydd newydd sy'n ceisio lliniaru a rheoli'r risg uwch o lifogydd oherwydd newid hinsawdd.
Gyda digwyddiadau tywydd
eithafol yn dod yn fwy aml a dwys, mae'r perygl o lifogydd wedi cynyddu, sy'n
gofyn am fesurau effeithiol i amddiffyn diogelwch y cyhoedd ac eiddo.
Mae Llywodraeth Cymru yn
amcangyfrif bod 245,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd gan afonydd,
y môr a dŵr wyneb, gyda 400 o eiddo ychwanegol o bosibl yn cael eu heffeithio
gan erydu arfordirol.
Mae'r cyfrifoldeb am reoli
achosion o lifogydd yng Nghaerdydd yn cael ei rannu rhwng tair asiantaeth:
Cyngor Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru, yn dibynnu ar ffynhonnell
y llifogydd.
Mae Cyngor Caerdydd yn
ymdrin â chyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb, dŵr daear, a llifogydd ar
briffyrdd.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n
gyfrifol am brif afonydd, llifogydd arfordirol, a chronfeydd dŵr, tra bod Dŵr
Cymru yn rheoli dŵr brwnt, dŵr wyneb a charthffosydd cyfunol.
Mae'r strategaeth newydd yn
canolbwyntio ar amcanion, mesurau a chynlluniau gweithredu clir i sicrhau
ymateb effeithiol i unrhyw achos o lifogydd yng Nghaerdydd.
Mae'r amcanion yn cyd-fynd
â'r rhai a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ac yn amlinellu uchelgeisiau, targedau
a chanlyniadau ar gyfer rheoli perygl llifogydd.
Mae'r mesurau wedi'u
grwpio'n dri phrif gategori:
·
Datblygu, Adfywio a
Pholisi;
·
Rhagofalon, Amddiffyn ac
Ymateb; a
·
Chymuned, Rhanddeiliaid a
Chydweithredu.
Mae'r Cynlluniau Gweithredu
yn cynnwys tri deg chwech o ymatebion ar wahân i achosion posibl o lifogydd,
boed hynny ledled y ddinas, ar Ynys Echni, neu ar hyd Afon Elái, Afon Rhymni,
neu Afon Taf.
Fe wnaeth y Cynghorydd Dan
De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, Newid Hinsawdd a
Thrafnidiaeth, bwysleisio pwysigrwydd cydweithredu: "Gan ein bod wedi cael
ein dynodi fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, ein rôl ni yw llunio strategaeth
sy'n creu cydweithrediad effeithiol rhwng yr asiantaethau sy'n gyfrifol am
lifogydd ar draws y ddinas.
"Mae'r ardaloedd
perygl llifogydd wedi'u hasesu, ac rydym wedi nodi amcanion, rolau,
cyfrifoldebau, mesurau a chynlluniau gweithredu clir i reoli'r gwahanol
senarios, gan nodi mesurau lliniaru effeithiol lle bo modd.
"Mae'r perygl cynyddol
o lifogydd yng Nghaerdydd oherwydd newid hinsawdd, felly rydym yn parhau â'n
gwaith i leihau effaith carbon y ddinas drwy ein Strategaeth Un Blaned.
"Ym mis Mawrth 2019, fe wnaeth Cyngor Caerdydd ddatgan argyfwng
hinsawdd ac amlinellu’r camau sydd angen eu cymryd i ddod yn gyngor sero net.
Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, rydym hefyd yn gwella mannau gwyrdd y ddinas
yn ogystal â chynnal gwaith uwchraddio sylweddol ar amddiffynfeydd llifogydd y
ddinas ar hyd Afon Rhymni. Bydd hyn yn rheoli'r perygl o lifogydd i 1,116 o
eiddo preswyl, 72 o eiddo dibreswyl a safle teithwyr Ffordd Rover. Bydd yr
amddiffynfeydd arfordirol newydd yn y rhan hon o’r ddinas yn darparu
amddiffyniad yn erbyn digwyddiad tywydd garw 1-mewn-200-mlynedd, gan gynnwys
caniatáu ar gyfer effeithiau newid hinsawdd.
"Mae Morglawdd Bae
Caerdydd a ddaeth yn weithredol yn 2001 yn ased i
gefnogi lleihau'r perygl o lifogydd yn ne’r ddinas os yw amodau'r llanw yn
caniatáu. Gellir gostwng lefelau dŵr ym Mae Caerdydd pan ddisgwylir
tywydd gwael, er mwyn galluogi'r dŵr ychwanegol yn sgil glaw i lifo o Afon Taf
ac Afon Elái i'r Bae. Mae gwaith cynnal a chadw effeithiol ar Forglawdd Bae
Caerdydd yn hanfodol i leihau'r perygl hwn o lifogydd, felly bydd angen
asesiadau ac ariannu pellach i sicrhau bod hyn yn digwydd.
"Bydd y strategaeth
newydd yn sicrhau bod y tair asiantaeth yn gweithio gyda'i gilydd i gymryd y
camau angenrheidiol pan fydd achosion o lifogydd. Mae gwaith proffilio risg a
mesurau lliniaru yn cael eu hegluro’n fanwl i sicrhau bod unrhyw ymateb i achos
o lifogydd yn gymesur ac yn effeithiol, wrth leihau'r perygl ac adeiladu
gwytnwch lle bo hynny'n bosibl i reoli’r lefelau glawiad a ddisgwylir yn y
dyfodol.
I gloi, nod y strategaeth
newydd yw sicrhau bod Cyngor Caerdydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru yn
gweithio gyda'i gilydd i gymryd camau angenrheidiol yn ystod achosion o
lifogydd. Bydd gwaith proffilio risg manwl a mesurau lliniaru yn sicrhau bod ymatebion
yn gymesur ac yn effeithiol, gan adeiladu gwytnwch i reoli lefelau glawiad yn y
dyfodol.
"Trwy weithio gyda'i
gilydd, bydd gan y ddinas allu gwell i ymdrin ag achosion posibl o lifogydd,
gan sicrhau diogelwch y cyhoedd a diogelu eiddo," ychwanegodd y Cynghorydd
De'Ath
Bydd Cabinet Cyngor
Caerdydd yn cwrdd ar 15 Mai i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd
gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnod yma https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu
Amgylcheddol yn craffu ar yr adroddiad ar 8 Mai am 4.30pm. Bydd recordiad o'r
cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio yma https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/978734