The essential journalist news source
Back
7.
May
2025.
Pensiynwr yn cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am achosi dioddefaint diangen i’w gymdogion
 07/05/25

 Mae celciwr hunanaddefedig wedi cael Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am fethu â chydymffurfio â hysbysiad i atal difrod plâu ar ei dir a gwrthod mynediad i gontractwyr i lanhau ei ardd.

Daeth William Glyn Cross, 80 oed o Spring Grove, Draenen Pen-y-graig, i'r penawdau yn 2022 pan gyhoeddwyd hysbysiad gorfodi gwastraff iddo yn ei gwneud yn ofynnol iddo lanhau'r ardd gefn yn ei eiddo yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd yr hysbysiad cyfreithiol gan y Cyngor yn dilyn nifer o gwynion gan gymdogion bod yr ardd gefn yn ei eiddo’n llawn tyfiant ac yn anniben a’i bod yn denu fermin, gan achosi effaith niweidiol ar eu hiechyd a'u lles.

Gweithredodd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir trwy gyhoeddi hysbysiad gorfodi ar Mr Cross yn nodi bod yn rhaid glanhau'r eiddo a chlirio’r sbwriel erbyn 21 Gorffennaf 2022 neu gallai'r Cyngor glirio'r gwastraff a chodi tâl ar y tirfeddiannwr.

Methodd William Glyn Cross â thynnu'r sbwriel o'i ardd gefn a gwrthododd fynediad i gontractwyr y Cyngor a oedd â'r dasg o lanhau ei ardd, ar ôl iddo fethu â gwneud hynny.

Cafodd Mr Cross ei erlyn yn Llys Ynadon Caerdydd ym mis Awst 2023 am fethu â chydymffurfio â'r hysbysiad cyfreithiol a chafodd ddirwy o £250. Wrth i'r materion barhau, aeth y Cyngor â Mr Cross i'r llys eto ar 4 Mawrth 2025, ond gan na wnaeth fynychu'r llys, gohiriwyd yr achos tan 24 Ebrill pan gyhoeddwyd dirwy arall o £100 ynghyd â Gorchymyn Ymddygiad Troseddol.

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:  "Mae perchennog yr eiddo hwn yn achosi dioddefaint diangen i'w gymdogion, oherwydd cyflwr ei ardd gefn. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers dwy flynedd ac ni ddylai ei gymdogion orfod parhau i'w oddef.

"Rydym wedi ceisio helpu ar sawl achlysur ond hyd yn oed pan aeth ein contractwyr i glirio'r croniad o wastraff ar ei ran, gwrthododd fynediad iddynt. Doedd dim dewis arall ond cymryd camau yn ei erbyn.

"Nawr bod y Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ar waith, mae gan y Cyngor bwerau i fynd i mewn i'r eiddo trwy rym i wneud y gwaith, os oes angen i ni wneud hynny. Rydym yn gobeithio y bydd Mr Cross yn gweithio gyda ni, fel y gallwn dacluso'r ardd a gwella'r amgylchedd i'w gymdogion."