6/5/2025
Bydd Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd yn cynnal cyfleuster gofal plant pwrpasol newydd cyn bo hir, gan ddarparu 32 lle a ddarperir gan Gylch Meithrin yr Eglwys Newydd.
Mae'r prosiect gwerth £1m wedi sefydlu lleoliad dysgu modern i blant rhwng dwy a phedair oed gan gynnwys meithrinfa fodiwlaidd gyda chegin ryngweithiol a thoiledau sy'n briodol i'w hoedran. Mae wedi ei ariannu drwy Raglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru ac fe'i hadeiladwyd gan Wernick, y contractwyr a ddewiswyd i gyflawni'r cynllun.
Yn agor ym mis Ebrill, mae'r ddarpariaeth newydd yn cyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) Caerdydd, drwy ddarparu lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg ar safleoedd ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.
Bydd Cylch Meithrin yr Eglwys Newydd yn darparu lleoedd gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru, rhai Dechrau'n Deg a rhai y Cynnig Gofal Plant, ynghyd â lleoedd sy'n talu ffioedd. Bydd lleoedd wedi'u hariannu a lleoedd sy'n talu ffioedd ar gael i blant oedran cyn-ysgol yn ogystal â darpariaeth lapio i blant sy'n mynychu addysg feithrin Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd.
Fel rhan o'r Budd-daliadau Lles Cymunedol, a elwid gynt yn Werth Cymdeithasol, mae Wernick yn darparu llu o adnoddau i'w defnyddio yn y ddarpariaeth gan gynnwys offer chwarae dan do ac awyr agored.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r amgylchedd dysgu modern newydd hwn yn ychwanegiad cyffrous at Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd. Bydd yn galluogi mwy o blant ifanc i dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan alinio â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Caerdydd wrth gefnogi targed Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Trwy ein hymrwymiad i sicrhau bod cymunedau'n elwa arbenderfyniadau buddsoddi a gwariant y Cyngor,yr offer a ddarparwyd gan WernicktrwyFudd-daliadau Lles Cymunedol yn rhoi cyfleoedd ardderchog i blant chwarae, gan gefnogistrategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant ac yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall gweithio mewn partneriaeth ei chael ar gymunedau."
Dywedodd Pennaeth yr ysgol,Gwyndaf Jones: "Rydyn ni'n falch o gynnig amgylchedd cyfrwng Cymraeg a meithringar i blant ddysgu, chwarae a thyfu.
"Mae gan Gylch Meithrin yr Eglwys Newydd dîm ymroddedig a chymwysedig o staff sy'n angerddol am gefnogi datblygiad a lles plant.
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Cylch, rhieni a gofalwyr i ddarparu'r gwasanaeth gofal plant gorau i'w plant."
Dywedodd Dirprwy Reolwr Gyfarwyddwr Wernick Buildings, "Fel cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghymru, mae'n arbennig o ystyrlon i ni gyfrannu at brosiectau sydd o fudd i'n cymunedau lleol. Rydyn ni'n gobeithio y bydd y lle newydd yn gwasanaethu disgyblion a staff yn dda am flynyddoedd lawer i ddod."
Mae Budd-daliadau Lles Cymunedol wedi'u cynllunio i fod o fudd i gymunedau lleol. Mae'n ofynnol i gontractwyr sy'n cyflawni prosiectau datblygu gwerth mwy na £250,000 gyflwyno cynllun cyflawni cyffredinol sy'n amlinellu eu dull ac maent yn cael eu cefnogi gan y Cyngor i gyflawni eu hymrwymiadau i gymunedau drwy gydol cylch bywyd y prosiect.
Maent yn canolbwyntio ar:
- Hyfforddi a recriwtio pobl sy'n anweithgar yn economaidd
- Mentrau cadwyn gyflenwi a gweithio gyda'r 3ydd sector
- Mentrau addysgol
- Mentrau cymunedol a diwylliannol
- Mentrau amgylcheddol