1/5/2025
Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol y Cyngor yn tynnu sylw at ymrwymiad cryf Caerdydd i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal yn y ddinas.
Mae'r Pwyllgor yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sectorau gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Addysg, ac asiantaethau statudol eraill, i hyrwyddo cyfrifoldeb ar y cyd am les plant sy'n derbyn gofal. Gyda'i gilydd, eu nod yw amddiffyn buddiannau'r bobl ifanc hyn a chreu'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer eu llwyddiant mewn bywyd.
Mae Adroddiad Blynyddol 2024/2025 yn tynnu sylw at yr ystod o fentrau a ymgymerwyd gan y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn nodi nifer o weithgareddau a gwelliannau allweddol:
- Iechyd a Lles Emosiynol:Gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, gan gynnwys asesiadau iechyd holistaidd, gwasanaethau trawma datblygiadol, a chymorth iechyd meddwl.
- Gwell Cysylltiadau a Gwell Perthnasau:Rhaglenni cymorth targedig fel Addewid Caerdydd, sy'n cydweithio â gwahanol wasanaethau i gefnogi plant mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
- Cartref Cyfforddus, Diogel a Sefydlog:Mentrau fel Porth Pobl Ifanc a Tai Ffres, sy'n darparu tai a chymorth i bobl ifanc.
- Cyflawniad Addysgol, Cyflogaeth a Hyfforddiant:Rhaglenni fel Ysgol Rithwir a Dyfodol Disglair Plant sy'n Derbyn Gofal, sy'n cynnig cyfleoedd addysg a chyflogaeth.
- Dathlu Ein Plant a'n Pobl Ifanc:Digwyddiadau fel Gwobrau Bright Sparks, sy'n cydnabod cyflawniadau pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn derbyn argymhelliad i gymeradwyo'r adroddiad blynyddol ochr yn ochr â Strategaeth Rhianta Corfforaethol 2025-2028. Mae'rstrategaeth tair blynedd yn nodi'r hyn sydd angen ei wneud fel rhieni corfforaethol i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal i'w galluogi i ffynnu a gwella'u canlyniadau. Mae'n amlinellu cyfres o egwyddorion sy'n sail i'r gwaith hwn a phum blaenoriaeth allweddol sydd wedi'u llunio yn seiliedig ar safbwyntiau a phrofiadau Plant sy'n Derbyn Gofal:
- Gwella Iechyd a Lles Emosiynol:Hyrwyddo datblygiad sgiliau, hyder, a thwf personol.
- Gwell Cysylltiadau a Gwell Perthnasau:Sicrhau bod plant mewn gofal yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
- Cartref Cyfforddus, Diogel a Sefydlog:Darparu cartrefi diogel, sefydlog a chyfforddus.
- Cyflawniad Addysgol, Cyflogaeth a Hyfforddiant:Sicrhau mynediad at addysg a chymorth o safon.
- Cynnwys a Dathlu Ein Plant a'n Pobl Ifanc:Dathlu cryfderau a chyflawniadau plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Gweithredu.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol:"Credwn y dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd ac y dylai gael pob cyfle i ddatblygu, ffynnu a chyrraedd ei botensial. Mae ein Plant sy'n Derbyn Gofal ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac mae'n hanfodol eu bod yn ganolog i'n gwaith a'u bod yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt. Mae hyn yn golygu gwrando, dysgu a herio ein hunain i fod y Rhieni Corfforaethol gorau y gallwn fod.
"Mae'n hollbwysig ein bod ni fel Rhiant Corfforaethol yn gweithio ar y cyd ag ystod o bartneriaid i sicrhau bod ein plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal yn cael eu cefnogi er mwyn iddynt fod yn ddiogel ac yn hapus ac mae'r strategaeth yn amlinellu ein hymrwymiadau, ein heriau a'r camau allweddol y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod ein plant yn cael y canlyniadau gorau posibl mewn bywyd.
"Mae gan wasanaethau cyhoeddus, y sector gwirfoddol a'r gymuned ehangach eu rhan i'w chwarae wrth lunio bywydau ein plant a'n pobl ifanc. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gefnogi ein plant a'r rhai sy'n gadael gofal i fanteisio ar yr ystod o gyfleoedd y gall ein dinas wych eu cynnig, i'w helpu i gyrraedd eu potensial llawn."
Mae'r cynllun yn amlinellu camau gweithredu, targedau a dangosyddion llwyddiant penodol i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ym mhob maes blaenoriaeth, gan bwysleisio cydweithio, cefnogi a dathlu cyflawniadau. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd sylfeini cryf i sicrhau y cyflawnir Rhianta Corfforaethol effeithiol.
Mae'r camau gweithredu allweddol yn cynnwys, datblygu dangosfwrdd data ar gyfer dangosyddion perfformiad allweddol, darparu hyfforddiant i staff, gweithredu hunanaesiadau a gweithgareddau archwilio, datblygu grŵp cyflenwi gweithredol, creu cynllun cyfathrebu blynyddol, defnyddio atebion technolegol ar gyfer gwybodaeth hygyrch, a sicrhau bod effaith y cynllun a'r blaenoriaethau yn cael eu cofnodi a'u rhannu drwy adroddiadau chwarterol a blynyddol.
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant: "Mae Strategaeth Rhianta Corfforaethol 2025-2028 yn pwysleisio pwysigrwydd darparu'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, sy'n canolbwyntio ar gefnogi plant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal.
"Mae cydweithio ag ystod o bartneriaid yn hollbwysig i sicrhau bod y plant hyn yn ddiogel ac yn hapus ac mae'r strategaeth yn amlinellu ymrwymiadau, heriau a chamau allweddol i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i blant, gyda gwasanaethau cyhoeddus, y sector gwirfoddol, a'r gymuned ehangach yn chwarae rhan mewn llunio eu bywydau.
"Mae'r cynllun blynyddol yn cofnodi'r gweithgareddau y gall ystod o feysydd gwasanaeth arwain arnynt. Bydd y rhan fwyaf o'r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar ein meysydd gwasanaeth traddodiadol sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc, diogelu a'r gymuned. Mae'n tynnu sylw at y cyfraniadau y gall y cyngor cyfan eu gwneud, i gefnogi ein plant. Mae cryfhau'r rhwydwaith partneriaeth yn hanfodol i sicrhau bod partneriaid statudol ac anstatudol yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni blaenoriaethau strategol."
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ddydd Iau, 15 Mai i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ar y diwrnod ymaAgenda Cabinet ar Dydd Iau, 15fed Mai, 2025, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn craffu ar yr adroddiad pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 6 Mai. Bydd recordiad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w wylio ymaAgenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mawrth, 6ed Mai, 2025, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd