The essential journalist news source
Back
23.
April
2025.
Cyllid newydd ar gael i feithrin cydlyniant cymunedol

23/04/25
 
Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto’n gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol cyfansoddiadol a sefydliadau'r trydydd sector ledled y ddinas am gyllid grant sydd ar gael i helpu i adeiladu cymunedau cryf a chydlynol.

Wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae grantiau bach hyd at £2,000 ar gael i gefnogi prosiectau a mentrau sy'n hybu cydlyniant cymunedol. Gellir defnyddio cyllid ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau, deunyddiau darllen cefnogol, neu i feithrin gallu cymunedol.

 

I fod yn gymwys, rhaid i brosiectau gyd-fynd â sawl un o'r amcanion canlynol:

 •                Dathlu amrywiaeth

•                Gwrthwynebu effeithiau casineb, naratifau casineb, twyllwybodaeth, a chamwybodaeth

•                Lleihau tensiynau cymunedol

•                Meithrin gallu cymunedol

•                Cefnogi cydlyniant cymunedol

•                Hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig (Deddf Cydraddoldeb 2010)

•                Hyrwyddo cymunedau cydlynol (Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol)

•                Digwyddiadau cydraddoldeb pwysig

•                Cefnogi cynhwysiant ac integreiddio, mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, nodi nodweddion cyffredin trwy ddiddordebau a phrofiadau a rennir, a dathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal.

 

Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb, “Rydym yn gwahodd grwpiau a sefydliadau i rannu eu syniadau ar gyfer meithrin cymunedau cydlynol a chryf. Rydym yn chwilio am fentrau sy'n helpu dinasyddion o wahanol gefndiroedd i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaethau, a meithrin parch at ei gilydd a gwerthoedd cyffredin.”

Gwahoddir ceisiadau gan sefydliad gwirfoddol neu grwpiau cymunedol cyfansoddedig a sefydledig sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw'r sefydliad.

Anogir cydweithio rhwng grwpiau/sefydliadau sy'n gwneud cais am y cyllid yn gryf.  Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ceisiadau partneriaeth (mwy na dau grŵp yn gweithio gyda'i gilydd ar brosiect) o hyd at £5,000 yn cael eu hystyried.

 

 

 

Mae gwaharddiadau'n berthnasol i sut y gellir defnyddio'r cyllid ac anogir ymgeiswyr i ddarllen y meini prawf cymhwystra yn y ffurflen gais yn ofalus cyn gwneud cais.

 

Bydd pob cais yn cael ei asesu a bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud gan banel. Bydd angen cwblhau'r prosiectau erbyn diwedd mis Mawrth 2026.

Disgwylir i brosiectau llwyddiannus ddarparu diweddariadau rheolaidd ar eu cynnydd ac adroddiad terfynol erbyn diwedd mis Mawrth 2026 yn cynnwys tystiolaeth megis gwerthusiad llawn o nifer y mynychwyr, digwyddiadau, gwirfoddolwyr, tystlythyrau, ffotograffau, a thystiolaeth o gyflawni.

Sylwer, oherwydd y nifer uchel o geisiadau a ragwelir, yn anffodus nid fyddwn yn gallu rhoi adborth unigol i ymgeiswyr aflwyddiannus.

I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais am gyllid, e-bostiwch

cydlyniant@caerdydd.gov.uk Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 4pm ddydd Gwener 30 Mai 2025.