22/04/25
Mae pobl ifanc o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu therapi realiti estynedig i helpu i fynd i'r afael â gorbryder ymhlith pobl ifanc.
Mae'r dechnoleg drochi yn darparu ymyriad i bobl ifanc fel dewis arall yn lle therapi traddodiadol ac mae wedi cael ei datblygu a’i phrofi gan chwe pherson ifanc o ddarpariaeth Grassroots Caerdydd dros gyfnod peilot o chwe wythnos.
Wedi'i greu gan Elemental Health, sy'n darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc - ac mewn cydweithrediad â Sugar Creative a Media Cymru - mae’r dull hwn yn ffordd i bobl ifanc ymgysylltu â therapi trwy “dyfu” yn ddigidol planhigyn sy'n eu cynrychioli nhw. O'r math o flodau i nifer y dail, o ffactorau amgylcheddol i gyflwr y planhigyn, mae'r broses wedi'i chynllunio i helpu pobl ifanc i rannu gyda'u gweithiwr cymorth - a'i gilydd os dymunant - eu planhigion, eu nodweddion, a sut mae hyn yn cysylltu â'r hyn a allai fod yn digwydd yn eu bywyd allanol.
Yn dilyn y cynllun peilot, mae data wedi awgrymu bod yr ap wedi helpu i ymgysylltu ag ystod o bobl ifanc, y mae llawer ohonynt yn niwrowahanol, ac na fyddent efallai'n ymgysylltu â, yn mynychu nac yn ymateb yn dda i gwnsela traddodiadol. Canfuwyd bod y buddion yn cynnwys lleihau gorbryder ac iselder a chynyddu cysylltiad cymdeithasol. Gan adeiladu ar waith helaeth Elemental Health mewn ysgolion, y gobaith yw y gallai'r therapi hefyd gefnogi pobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau o ran presenoldeb yn yr ysgol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth o ffyrdd i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn profi gorbryder ac mae ein timau wrth law i gyfeirio unigolion at y cymorth cywir sydd ei angen arnynt.
“Trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol fel Elemental Health, mae pobl ifanc wedi cael cyfle i ddweud eu dweud ac wedi rhoi mewnbwn gwerthfawr wrth ddatblygu'r offeryn hwn sy'n cynnig ffordd iddynt gyfathrebu gan ddefnyddio dull y maen nhw’n teimlo'n gyffyrddus ag e.
“Trwy ddefnyddio technoleg gêmio, mae'r ap yn cynnig dull arloesol sy'n ceisio cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc.”
Dywedodd Angela McMillan, Sylfaenydd Elemental Health: “Rydyn ni'n gwybod bod gorbryder yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc yng Nghymru, ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd arloesol o'u cefnogi nhw a'u teuluoedd.
Mae fy mhrofiad i fel therapydd wedi dangos bod rhoi pobl ifanc wrth wraidd y sgwrs yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.
Gan weithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, rydym wedi dangos yr effaith enfawr y gall yr ymyriad hwn ei gael, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â'r gwaith hwnnw yng Nghaerdydd a thu hwnt.”
Bydd rhaglen Elemental Health nawr yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion yng Nghaerdydd ac Abertawe dros y gwanwyn a'r haf.