The essential journalist news source
Back
17.
April
2025.
Cau Ffyrdd ar gyfer Dydd y Farn ar 19 Ebrill yn Stadiwm Principality Caerdydd
 17/04/25

 Bydd Dydd y Farn yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 19 Ebrill yn Stadiwm Principality.

Mae’r gic gyntaf am 3pm, felly bydd rhai o’r ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau o 12 canol dydd tan 9pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o’r stadiwm yn ddiogel.

Bydd y gatiau'n agor am 2pm, a chynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.wales, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu cau fel rhan o drefniant cau ffyrdd rhannol yng nghanol y ddinas o 12 canol dydd tan 9pm.

·       Stryd Tudor, Stryd Wood, Gerddi Despenser ac Arglawdd Fitzhammon

·       Heol Eglwys Fair, Heol Scott, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Lôn y Great Western

·       Heol Saunders / Heol Penarth, Heol y Porth, Plas y Neuadd, Y Gwter, Stryd y Cei, Heol y Cawl a Stryd y Popty.

Bydd Stryd y Castell a Ffordd y Brenin ill dau yn parhau i fod ar agor i draffig, ond bydd angen cau rhan fach o Ffordd y Brenin (Heol Tŷ'r Brodyr) rhwng Boulevard de Nantes a Heol y Brodyr Llwydion, a chaiff hyn ei reoli gan staff er mwyn caniatáu bysiau i deithio ar hyd y ffordd.

Ychwanegiadau:

Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad dim ond i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd y cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad yn Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.

Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 9pm gyda'r safle yn cau am 9.30pm.

Y gost yw £15.  Arian parod yn unig.

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Choetsys)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr. 

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express: Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.  

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y beicffyrdd a'r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal cau ffyrdd yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond oherwydd nifer y bobl y disgwylir iddynt fynychu’r gêm rygbi, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae'r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair yn cau am 12 canol dydd ac yn ailagor am 9pm.